Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel Blaenau Gwent yn parhau i wneud argraff

Cafodd perfformiad Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ei gydnabod mewn adroddiad i Bwyllgor Craffu Adfywio Blaenau Gwent.

Mae Anelu’n Uchel, a gafodd ei sefydlu gyntaf yn 2015 gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi parhau i gyflawni bob blwyddyn a chafodd ei gydnabod yn 2019 a 2021 yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru drwy ennill Gwobr ‘Cyflogwr Mawr a Macro y Flwyddyn’. Mae ennill y wobr am yr eildro, yn ystod y pandemig, yn dangos ymroddiad a chefnogaeth y tîm at eu prentisiaid a chyflogwyr.

Mae’r rhaglen yn rhoi llwyfan i bobl ifanc gael mynediad i gyfleoedd prentisiaeth yn y rhanbarth. Hwylusir hyn gan dîm rheoli’r rhaglen sy’n cydlynu gyda cholegau lleol a’r darparydd dysgu prentisiaeth i sicrhau profiad dysgu llyfn a chanlyniad llwyddiannus.

Hyd yma mae’r rhaglen wedi cefnogi 101 prentis a gafodd eu lleoli gyda 25 o gwmnïau gweithgynhyrchu ledled Blaenau Gwent gyda 51% o’r prentisiaid (yng Nghohort 1, 2 a 3) yn symud ymlaen i addysg uwch neu Dystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC). Cafodd llawer eu cydnabod am eu hymrwymiad, tebyg i Jordan Harley a enillodd gategori Technegydd Cyfrifon yng Ngwobrau Cyllid Cymru 2021.

Mae Anelu’n Uchel Blaenau Gwent wedi parhau i dyfu ac yn 2017 ehangodd i gynnwys darpariaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae’r llwyddiant mewn dau awdurdod lleol yn profi fod dull gweithredu cydlynus yn parhau i sicrhau pobl ifanc fedrus  ar gyfer cyflogwyr lleol i ddiwallu anghenion rhanbarthol.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Mae timau Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ac Anelu’n Uchel Merthyr yn gwneud cyfraniad gwych i wella lefelau sgiliau ar gyfer cyflogwyr a chreu cyfleoedd swydd ar gyfer ein pobl ifanc drwy eu Rhaglen Rhannu Prentisiaeth. Mae’n hyfryd iawn gweld y prentisiaid yn ennill cymwysterau uwch ac rwy’n siŵr y byddant yn datblygu gyrfaoedd llwyddiannus yn neilltuol mewn peirianneg drydanol a mecanyddol, gwyddoniaeth a thechnoleg gwybodaeth. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol”.