Pythefnos sydd ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau sydd ar ddod

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 14 Ebrill. Gallwch wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dim ond pum munud mae'n ei gymryd.

Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eu cynrychioli ar lefel leol. Eleni, bydd trigolion yn/ym/yng Blaenau Gwent yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr sy'n cynrychioli eu hardal leol a'i thrigolion ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd megis trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.

Dywedodd Andrea Jones, y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cyngor Blaenau Gwent:

“Gyda dim ond pythefnos i fynd, nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau lleol. Mae'r etholiadau hyn yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy'n eich cynrychioli ar faterion sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywyd beunyddiol yma yn/ym/yng Blaenau Gwent Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Felly os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.”

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru:

“Dim ond os ydych wedi cofrestru i bleidleisio y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau hyn, ac mae'r dyddiad cau yn prysur nesáu. Mae'n gyflym ac yn hawdd – dim ond pum munud mae'n ei gymryd ar-lein yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio.

“Os ydych wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae'n arbennig o bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir.

“Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os oes unrhyw amheuaeth, gallwch gadarnhau â'ch awdurdod lleol drwy ffonio 01495 355086”