Pwyllgor Gweithredol y Cyngor yn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer Canolfan Uwch Beirianneg

Mae Pwyllgor Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent heddiw (14 Ebrill 2021) wedi cymeradwyo adroddiad y Ganolfan Uwch Beirianneg sy’n cymeradwyo cais am gyllid i Lywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn cynnig sefydlu canolfan beirianneg flaenllaw a fyddai’n cefnogi cannoedd o ddysgwyr yng Nglynebwy.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys ailwampio hen ffatri Monwell yn Heol Letchworth, Glynebwy i greu Canolfan Uwch Beirianneg.

Byddai’r cyfleuster o’r math diweddaraf yn Ganolfan Rhagoriaeth flaenllaw, a allai gyflwyno cwricwlwm newydd addas ar gyfer diwydiant peirianneg y dyfodol.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Choleg Gwent. Disgwylir i tua 600 o ddysgwyr fynychu’r ganolfan erbyn 2026/27 ar amrywiaeth o gyrsiau llawn-amser, rhan-amser, addysg uwch a phrentisiaeth.

Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Adfywio:

“Mae’r prosiect hwn yn dod â Cymoedd Technoleg, Coleg Gwent a nifer o bartneriaid ynghyd i ddatblygu’r weledigaeth o ganolfan fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd. Bydd yn creu amgylchedd fydd yn denu mewnfuddsoddwyr uwch-dechnoleg o fewn y sector uwch weithgynhyrchu.

“Bydd y Ganolfan Uwch Beirianneg yn addasu’n barhaus i gynhyrchu myfyrwyr gelfydd gydag angerdd go iawn am beirianneg a chynyddu sgiliau’r gweithlu peirianneg presennol, yn barod ar gyfer y chwyldro diwydiannol nesaf. Bydd y bartneriaeth gyda rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel yn sicrhau fod diwydiant lleol yn medru cael pobl ifanc fedrus ar gyfer swyddi’r dyfodol.”

Cefnogir y cynllun gan fwrdd Cymoedd Technoleg. Os cymeradwyir y cais am gyllid, disgwylir y bydd y cyfleuster yn agor ym mis Medi 2022. Bydd y ganolfan yn cefnogi gweledigaeth Cymoedd Technoleg ar gyfer Cymoedd De Cymru a Blaenau Gwent i gael eu cydnabod fel canolfan fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd erbyn 2027.