Presenoldeb mewn claddedigaethau - nifer y galarwyr a ganiateir

Mae nifer y galarwyr y caniateir iddynt fynychu angladdau ym mynwentydd Gwent ac Amlosgfa Gwent yn newid yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Oherwydd yr achosion parhaus o Coronafeirws Covid-19, yn anffodus bu'n rhaid cyfyngu ar y niferoedd a ganiatawyd i fynychu angladdau mewn mynwentydd o fewn pum ardal awdurdod lleol Gwent, ac yn Amlosgfa Gwent.

Mae'r cynghorau'n cydnabod ac yn deall yn llawn pa mor anodd fu'r cyfyngiadau hyn i deulu a chyfeillion yr ymadawedig, ac felly ymrwymodd i'w hadolygu'n rheolaidd.

Gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Cymru wedi symud yn llawn i Lefel Rhybudd Un, mae Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent, sy'n cwmpasu'r pum ardal cyngor, wedi cytuno i gynyddu nifer y galarwyr a ganiateir i fynychu angladdau mewn mynwentydd ac yn Amlosgfa Gwent.

Mae mynychu angladd fel galarwr yn parhau i fod yn gyfyngedig i'r rhai a wahoddir yn benodol gan drefnydd yr angladd a gofalwr unrhyw un sy'n mynychu.

Nifer y mynychwyr a ganiateir sy'n weithredol o 22/07/21 yw:

Claddedigaethau mynwentydd: diderfyn
Amlosgfa Gwent:   30

Fodd bynnag, er gwaethaf llacio'r cyfyngiadau, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o hyd wrth gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a'i ledaenu.  

Mae hyn yn cynnwys cadw pellter oddi wrth eich gilydd cyn belled ag y bo modd ac osgoi cyswllt corfforol fel ysgwyd dwylo neu gofleidio, yn enwedig gyda'r rhai y tu allan i'ch grwpiau a'ch aelwydydd a ganiateir. 

Hefyd, mae golchi dwylo'n aml a'r defnydd o gel diheintio dwylo yn parhau'n bwysig, yn ogystal ag ymatal rhag cyffwrdd eich trwyn/ceg â dwylo heb eu golchi.

Bydd partneriaid Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent yn parhau i adolygu'r mater hwn yn barhaus.