Penodi Arweinydd ac Aelodau Gweithrediaeth Cyngor Blaenau Gwent yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Blaenau Gwent heddiw (dydd Iau 26 Mai 2022).

Cafodd y Cynghorydd Stephen Thomas o’r Blaid Lafur ei ethol yn ffurfiol fel Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb am Corfforaethol a Pherfformiad. Etholwyd y Cynghorydd Helen Cunningham yn Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle a’r Amgylchedd.

Etholwyd y Cynghorydd Chris Smith yn Aelod Llywyddol y Cyngor. Yr Aelod Llywyddol fydd yn:

  • Cadeirio cyfarfodydd y Cyngor;
  • Cadw trefn a gwarchod hawliau Aelodau yn cynnwys sicrhau y caiff busnes y Cyngor ei drin ar sail gyfartal a diduedd;
  • Hyrwyddo ymgysylltu democrataidd ac arweinyddiaeth.

Y Dirprwy Aelod Llywyddol fydd y Cynghorydd David Wilkshire.

Aelodau Gweithrediaeth y Cyngor a’u portffolios perthnasol yw:

  • Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Corfforaethol a Pherfformiad – Cynghorydd Stephen Thomas
  • Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd – Cynghorydd Helen Cunningham
  • Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg - Cynghorydd Sue Edmunds
  • Aelod Gweithrediaeth Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cynghorydd  Haydn Trollope
  • Aelod Gweithrediaeth Lle ac Adfywio – Cynghorydd John C. Morgan

Dywedodd Cyng Stephen Thomas, yr Arweinydd:

“Mae’n anrhydedd i fi gael fy ethol yn Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent heddiw, i fedru gwasanaethu pobl y fwrdeistref sirol a gweithio gyda nhw ar ein blaenoriaethau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rwy’n falch i fedru penodi’r Aelodau Gweithrediaeth yn swyddogol i’w portffolios, a hefyd yn falch i groesawu llawer o gynghorwyr newydd ar draws y sbectrwm gwleidyddol i’r Cyngor. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phawb er budd gorau Blaenau Gwent a’n preswylwyr.

Bydd y Blaid Lafur yn ymdrechu i ad-dalu ymddiriedaeth y rhai a bleidleisiodd drosom yn ein cymunedau. Mae gennym nifer o brif flaenoriaethau i ganolbwyntio arnynt a rydym wedi defnyddio ein hymgyrchu diweddar i gael ymdeimlad gwirioneddol o’r materion sy’n effeithio mwyaf ar ein preswylwyr yn eu bywyd bob dydd; y pethau sydd bwysicaf iddynt, a sut y gallwn drin rhai ohonynt.

“Byddwn yn gweithio i ddarparu’r gwasanaethau gorau a mwyaf effeithiol posibl i’r gymuned. Un o’r llu o heriau fydd gennym fydd gweithio gyda nifer o wahanol bartneriaid i wneud yr hyn a allwn i helpu gyda’r argyfwng presennol mewn costau byw. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a’r angen i fyw a gweithredu’n fwy cynaliadwy, a hefyd helpu pobl i fyw bywydau mwy iach.”

Cafodd Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion y pwyllgorau dilynol eu penodi hefyd:

  • Pwyllgor Craffu Pobl – Cynghorydd Tommy Smith (Cadeirydd)  
  • Pwyllgor Craffu Lle – Cynghorydd Malcolm Cross (Cadeirydd) 
  • Pwyllgor Craffu Partneriaeth – Cynghorydd Wayne Hodgins (Cadeirydd)  
  • Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad – Cynghorydd Joanna Wilkins (Cadeirydd)