PCI Pharma Services yn Cyhoeddi Ehangiad Miliynau o Ddoleri yn Nhredegar

Mae PCI Pharma Services (PCI), sefydliad byd-eang blaenllaw ar gyfer datblygu a gweithgynhyrchu contract, heddiw wedi cyhoeddi ehangiad sylweddol yn ei ganolfan yn Nhredegar, a gynlluniwyd i helpu i gadw’n gydwastad gyda thwf y farchnad ar gyfer therapïau oncoleg grymus, wedi’u targedu.

“Mae’n gyffrous cyhoeddi’r ehangiad diweddaraf yn Nhredegar fydd yn mynd i’r afael â’r angen cynyddol a brys am wasanaethau gweithgynhyrchu byd-eang arbenigol ym maes oncoleg,” meddai Salim Haffar, Prif Swyddog Gweithredol, PCI Pharma Services. “Wrth i’r farchnad ehangu ar gyfer therapïau nerthol a fformiwleiddiadau crynodedig a all gyflwyno heriau unigryw i weithgynhyrchu a phecynnu, rydym yn falch i fod yn un o’r ychydig o ddarparwyr gyda’r galluedd byd-eang i drin yr arbenigedd hwn ar raddfa glinigol a hefyd, yn bwysig, fasnachol.

Mae’r ehangiad yn cynnwys dwy ganolfan newydd yn arbennig ar gyfer gweithgynhyrchu a phecynnau tabledi a chapsiwlau solid i’w cymryd drwy’r geg. Bydd ail adeilad gweithgynhyrchu neilltuol (CMF2), yn manteisio ar lwyddiant y CMF1 gwreiddiol, a agorodd yn 2013, gan ddyblu gallu prosesu graddfa fawr yn cynnwys dosbarthu a gronyniad gwely hylif o gynnyrch dogn-soled nerthol iawn ar raddfa fasnachol. Mae hefyd gyfleusterau pecynnu newydd aml-gynnyrch nerthol iawn gydag ystafelloedd ar gyfer gosod cynnyrch mewn pecynnau swigen a photelu sylfaenol ac eilaidd. Mae’r llinellau pecynnu sylfaenol ac eilaidd yn darparu proses hollol integredig, gan ddarparu gwasanaethau pen-i-ben ar gyfer sylfaen cleientiaid byd-eang.

Cafodd mwy na 1,300 o feddyginiaethau a brechiadau mewn treialon clinigol eu dynodi ar gyfer triniaeth canser yn 2021, o gymharu gyda 1,100 ddwy flynedd yn flaenorol. Roedd triniaethau oncoleg hefyd yn cyfrif am 25% o’r holl feddyginiaethau a gymeradwywyd gan yr FDA rhwng 2010 a 2019, gan ddangos y bydd oncoleg yn parhau’n ffocws allweddol i’r diwydiant yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae’r esblygiad cyflym mewn triniaethau yn yr arfaeth ar gyfer oncoleg wedi digwydd ar yr un pryd â globaleiddio parhaus mewn datblygiad clinigol,” meddai Rebecca Coutts, Ph.D., Rheolwr Cyffredinol, PCI Pharma Services, Tredegar. “Mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn, ynghyd â galluedd dadansoddi a fformiwleiddio presennol, yn cyfuno cyfleuster pecynnu clinigol a graddfa fasnachol i ategu galluoedd gweithgynhyrchu clinigol presennol a chynyddu graddfa fasnachol, gan ddarparu gwasanaethau pen-i-ben ar gyfer y moleciwlau nerthol iawn hyn dan un to i wasanaethu anghenion esblygol ein cleientiaid yn well.”

Bydd y ddau safle yn cynnwys offer o’r math diweddaraf un, yn cynnwys copi o ystafell gronynnu graddfa-fawr CMF1 a bwth lawr-lif gyda sgriniau cynhwysiad. Bydd dyblygu safle gwreiddiol CMF1 yn rhoi mwy o gapasiti a pharhad busnes i gleientiaid.

Disgwylir y bydd yr ehangiad yn Nhredegar hefyd yn creu hyd at 40 swydd newydd yn y flwyddyn gyntaf ac yn ychwanegu mwy wrth i’r cyfleusterau gynyddu. Mae bron i 500 o bobl yn cael eu cyflogi yn PCI Tredegar ar hyn o bryd, gan bron ddyblu nifer y gweithwyr ers agor CMF1 yn 2013. Bu PCI yn gweithredu yn Nhredegar ers bron 40 mlynedd ac mae’n un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal leol. I gael mwy o wybodaeth ar alluoedd datblygu a gweithgynhyrchu nerthol iawn PCI, cliciwch yma.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Gweithrediaeth Lle ac Adfywio Cyngor Blaenau Gwent: “Mae hwn yn newyddion gwych i Flaenau Gwent ac yn hwb a gaiff ei groesawu’n fawr i’r economi lleol. Rwyf wrth fy modd yn gweld PCI Tredegar yn parhau i ehangu a dod â swyddi lleol sgil uchel i’r ardal. Hoffwn ddiolch i PCI am eu cefnogaeth ac estyn fy nymuniadau gorau i Dîm PCI ar gyfer y dyfodol. rydych yn gyflogwr lleol allweddol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymroddedig i weithio gyda chi ar eich cynlluniau twf ar gyfer y dyfodol.

Am PCI Pharma Services
Mae PCI yn sefydliad datblygu a gweithgynhyrchu contract byd-eang blaenllaw, yn darparu galluedd datblygu, gweithgynhyrchu a phecynnu cyffuriau integredig pen-i-ben i gleientiaid sy’n cynnyrch cyflymder eu cynnyrch i’r farchnad a chyfleoedd ar gyfer llwyddiant masnachol. Mae gan PCI y profiad amlwg a ddaw gyda lansio mwy na 50 o gynnyrch llwyddiannus bob blwyddyn a dros bum degawd yn y busnes gwasanaethau gofal iechyd. Ar hyn o bryd mae gennym 30 safle mewn saith gwlad (Awstralia, Canada, yr Unol Daleithiau, Iwerddon, Cymru, yr Almaen a Sbaen) a dros 4,300 o aelodau staff sy’n gweithio i ddod â therapïau newid bywyd i gleifion. Mae technoleg flaenllaw a buddsoddiad parhaus yn ein galluogi i drin anghenion datblygu cyffuriau byd-eang drwy holl gylch oes cynnyrch – o alluoedd gweithgynhyrchu hyd at y cadwyn cyflenwi treial clinigol ac ymlaen i fasnacheiddio. Mae ein cleientiaid yn ein hystyried fel estyniad o’u busnes hwy a phartner sy’n cydweithio gyda nhw gan rannu’r nod o wella bywydau cleifion.