Paula yn ennill dwy Wobr Prentisiaeth yng Ngholeg Gwent

Llongyfarchiadau i Paula Flook (cogydd yn Ysgol Gynradd Sofrydd) sydd newydd gwblhau ei chwrs Cogydd Cynorthwyol dan Hyfforddiant ac ennill gwobr ‘Prentis Sector Gwasanaeth’ Coleg Gwent mewn Lletygarwch ac Arlwyo. Yn ogystal â’r gamp wych hon, fe wnaeth Paula hefyd ennill prif wobr ‘Prentis Sylfaen y Flwyddyn’ yng Ngholeg Gwent.

Mae hyn yn gymaint o gamp i groesawu heriau newydd, datblygu sgiliau ac yna gael eu cydnabod am ei holl waith caled. Mae’r wobr mor haeddiannol gan fod Paula wedi dangos cymaint o ymdrech a phenderfyniad i gwblhau ei chwrs drwy gydol y pandemig.

Mae Paula sydd wedi gweithio ei ffordd i fyny’r ysgol a llwyddodd i gael swydd fel cogydd yn Ysgol Gynradd Sofrydd ar ôl gorffen ei hyfforddiant prentisiaeth gyda Choleg Gwent dros gyfnod o 18 mis.

Mae hyfforddiant prentisiaeth yn rhedeg wrth ochr rhaglen hyfforddiant arlwyo ysgolion Blaenau Gwent i sicrhau fod gan staff ddealltwriaeth gynhwysfawr o fod yng ngofal cegin ysgol, gyda’r holl hyfforddiant yn digwydd o fewn cegin y safle. Ers dechrau’r rhaglen, bedair blynedd yn ôl, mae wedi llwyddo i ddatblygu staff gyda dau gogydd a phum cogydd cynorthwyol wedi eu penodi hyd yma. Mae dau aelod arall o staff i gwblhau eu hyfforddiant ym mis Medi 2021 gyda dau arall yn dechrau’r rhaglen yn yr un mis.

Llun - Paula Flook (yn dal tystysgrifau) gyda disgyblion Blwyddyn 6 a Phennaeth Ysgol Gynradd Sofrydd.