Newid y rheolau hunanynysu ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn

Cadarnhaodd y Prif Weinidog heddiw na fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi cael eu brechu’n llawn hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun sydd â’r coronafeirws.

Bydd y newidiadau i wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn yn dod i rym o 7 Awst, sef yr un diwrnod ag y disgwylir i Gymru symud i lefel rhybudd sero, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny.

Bydd plant a phobl ifanc o dan 18 oed hefyd yn cael eu heithrio rhag yr angen i hunanynysu os cânt eu nodi hefyd fel cysylltiadau agos ag achos positif.

Ond mae'n rhaid i bawb sy'n profi'n bositif am y coronafeirws neu sydd â symptomau barhau i ynysu am 10 diwrnod, p'un a ydynt wedi cael eu brechu ai peidio.

Bydd y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn defnyddio Gwasanaeth Imiwneiddio Cymru i nodi oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn ac na fydd yn ofynnol mwyach iddynt hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos.

O 7 Awst, yn hytrach na rhoi cyfarwyddyd i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn i ynysu, bydd swyddogion a chynghorwyr olrhain cysylltiadau yn rhoi cyngor ac arweiniad iddynt ar sut i amddiffyn eu hunain ac aros yn ddiogel.
Bydd y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn darparu gwasanaeth “rhybuddio a hysbysu” i bob oedolyn a’r rhai o dan 18 oed, sydd wedi'u brechu'n llawn, y nodir eu bod yn gysylltiadau agos.

Bydd rhai mesurau diogelu ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed, yn enwedig staff iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys asesiad risg ar gyfer staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal a phrofion llif unffordd dyddiol. Bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael eu cynghori’n gryf i beidio ag ymweld ag ysbytai a chartrefi gofal am 10 diwrnod.

Bydd pawb a nodwyd fel cyswllt ag achos positif yn parhau i gael eu cynghori i gael prawf PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth, p'un a ydynt wedi'u brechu'n llawn ai peidio.

Bydd y newidiadau'n helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau hanfodol a achoswyd gan y cynnydd cyflym diweddar mewn achosion o COVID, yn sgil yr amrywiolyn delta dros y ddau fis diwethaf.

Mae achosion wedi codi 800% ers diwedd mis Mai, pan oeddent ar lefelau isel iawn. Dros yr wythnos ddiwethaf mae cyfraddau achosion wedi dechrau gostwng ym mhob rhan o Gymru.

Mae bron i 80% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu brechu'n llawn – y cyfraddau gorau yn y DU a rhai o'r goreuon yn y byd.

Wrth gyhoeddi'r newidiadau i'r rheolau hunanynysu, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae hunanynysu os oes gennych symptomau neu os ydych chi wedi cael canlyniad prawf positif yn parhau i fod yn fesur pwerus wrth helpu i dorri'r cadwyni trosglwyddo ac atal lledaeniad y feirws. Mae'n bwysig ein bod yn dal ati gyda hyn, hyd yn oed o ran y bobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn.

“Ond rydyn ni'n gwybod bod cwrs llawn o'r brechlyn yn cynnig amddiffyniad i bobl rhag y feirws ac maen nhw'n llawer llai tebygol o'i ddal pan fyddan nhw'n cael eu nodi fel cysylltiadau agos. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddynt hunanynysu mwyach am 10 diwrnod.

“Gallwn ddileu'r angen am hunanynysu ar gyfer y ddwy filiwn o oedolion sydd wedi cwblhau eu cwrs brechu, gan helpu i ddiogelu Cymru a sicrhau bod pobl yn dal i weithio.

 “Rydym hefyd yn dileu'r angen i blant a phobl ifanc o dan 18 oed hunanynysu, gan gydnabod yr effaith y mae cyfnodau hir y tu allan i'r ysgol a'r coleg yn ei chael ar eu lles a'u haddysg.”

Bydd y system bresennol o daliadau cymorth i bobl ar incwm isel y mae’n rhaid iddynt hunanynysu am eu bod naill ai wedi profi'n bositif neu'n gyswllt agos â rhywun sydd â'r feirws, yn parhau.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Yn anffodus, fel y mae'r misoedd diwethaf wedi dangos, mae'r pandemig yn dal gyda ni.

“Mae angen help pawb arnom i reoli lledaeniad y coronafeirws – mae popeth a wnawn yn cael effaith ar y feirws ofnadwy hwn.

“Mae cael gwared ar hunanynysu ar gyfer pobl sydd wedi cael cwrs llawn o'r brechlyn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen ond nid yw'n golygu diwedd ynysu i bob un ohonom. Os ydym am weld diwedd y coronafeirws, mae angen i bob un ohonom gymryd y feirws hwn o ddifrif ac ynysu os oes gennym symptomau a chael prawf.

“Mae hefyd yn bwysig iawn bod pawb yn manteisio ar y cynnig o frechiad. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru – mae clinigau ar agor ym mhob rhan o'r wlad."