Neges gan Arweinydd y Cyngor, Nigel Daniels

Neges gan Arweinydd y Cyngor, Nigel Daniels

At breswylwyr Blaenau Gwent

Heddiw (12 Mawrth) rhoddodd Prif Weinidog Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyda Coronafeirws ar draws Cymru, gan amlinellu’r llacio cyfyngiadau y gallwn ei ddisgwyl dros yr ychydig wythnosau nesaf a’r gwasanaethau a busnesau fydd yn dechrau ail-agor yn raddol.
Cyn sôn am yr wybodaeth ddiweddaraf honno, hoffwn yn gyntaf ddiolch i’n preswylwyr yma ym Mlaenau Gwent am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn cadw at y rheolau ac am helpu i ostwng achosion COVID-19 yn ein cymunedau.

Aethom o fod â’r rhai o’r cyfraddau gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan i rai o’r isaf, a bu gennych ran bwysig mewn gwneud i hynny ddigwydd. Drwy gydweithio, rydym wedi gwneud gwahaniaeth go iawn gan roi lle yn awr i’r Llywodraeth baratoi’r ffordd yn ofalus allan o’r hyn fydd gobeithio ein cyfnod clo olaf.
Mae pawb ohonom wedi aberthu dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi colli achlysuron teuluol a digwyddiadau bywyd na fedrwn byth eu cael yn ôl, ond gwnaethom hynny i ddiogelu ein preswylwyr bregus, i achub bywydau ac i ddiogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Y newidiadau pwysicaf a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog heddiw oedd:

• Caiff y gofyniad “Arhoswch Gartref” ei godi o 13 Mawrth, gyda neges “Arhoswch yn Lleol” yn lle hynny.

• O 13 Mawrth, gall pedwar o bobl o ddwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi. Hefyd, gall cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tennis a chyrsiau golff, ailagor.

• Gall ymweliadau i gartrefi gofal ailddechrau ar gyfer un ymwelydd dynodedig. Fel awdurdodau lleol ledled Gwent, rydym yn glir mai dim ond pan mae’r cartrefi wedi paratoi’n llawn ac yn barod ar gyfer ymweliadau diogel y gall hyn ddigwydd.

• O 15 Mawrth bydd pob disgybl cynradd a disgyblion sy’n astudio ar gyfer cymwysterau yn cael dychwelyd i’r ysgol. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod â disgyblion blwyddyn 10 a blwyddyn 12 yn ô֧l a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau. Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall. Bydd pob dysgwr yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg.

• Gall siopau trin gwallt a siopau barbwr ailagor o ddydd Llun.

• O 22 Mawrth ymlaen bydd siopau nad ydynt yn hanfodol yn dechrau ailagor yn raddol wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi ar yr hyn y gellir ei werthu yn y siopau sydd ar agor ar hyn o bryd. Gall canolfannau garddio ailagor hefyd. Gall pob siop, yn cynnwys gwasanaethau cyswllt agos, agor o 12 Ebrill.

Mae hon yn ffordd gadarnhaol ymlaen, ond gadewch i bawb ohonom barhau i ymddwyn yn ofalus dros yr ychydig wythnosau nesaf i sicrhau y gallwn ddod allan o’r argyfwng hwn yn y ffordd a nodwyd.

Wrth gwrs mae’n rhaid i ni siarad am ymestyn y brechlyn, sydd yn wirioneddol yn stori newyddion ragorol. Cefais fy mrechlyn i yng Nglynebwy, ac roedd yn brofiad rhwydd a threfnus iawn. Roedd yn galonogol iawn bod yn yr ystafell honno gyda phobl eraill yn derbyn eu brechlyn, ac mae’n ysbrydoliaeth fod dros filiwn o bobl wedi cael cynnig dos cyntaf erbyn hyn. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith, yn staff iechyd a hefyd wirfoddolwyr gwych i ymestyn y brechlynnau’n gyflym ac yn ddiogel er mwyn diogelu ein pobl fwyaf bregus. Da iawn chi bawb!

Fel y nodwyd uchod, cadarnhawyd heddiw y bydd mwy o ddisgyblion yn dychwelyd i addysgu wyneb-i-wyneb o’r wythnos nesaf ymlaen. Bu ein dysgwyr ieuengaf (Cyfnod Sylfaen) yn ôl yn yr ystafell ddosbarth am ddwy wythnos, a bydd gweddill disgyblion ysgolion Cynradd a dysgwyr Blwyddyn 11 Uwchradd yn ymuno â nhw yn fuan. Bydd hefyd rai trefniadau ‘ailgydio’ ar gyfer pob grŵp arall cyn gwyliau’r Pasg.

Rydym yn falch yr ystyrir ei bod yn amser cywir i groesawu mwy o ddysgwyr yn ôl, mae’n bwysig i’n plant a phobl ifanc fod yn yr ysgol ar gyfer eu hanghenion addysgol a hefyd eu lles emosiynol a chorfforol. Mae ein hysgolion yn parhau i weithio’n galed gyda chydweithwyr yn y Cyngor i gynnal yr holl fesurau diogelwch perthnasol, ond rwyf hefyd yn galw ar rieni a gofalwyr i chwarae eu rhan drwy feddwl yn ofalus am eu hymddygiad tu allan i’r ysgol a sut y gallai hyn effeithio ar drosglwyddo’r feirws. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i gadw addysg yn ddiogel, a’n hysgolion a cholegau ar agor.

Hoffwn sôn yn fyr am Gyllideb y Cyngor ar gyfer 2021/22, a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cyngor Llawn. Rydym wedi medru gosod Cyllideb sy’n diogelu gwasanaethau rheng flaen allweddol yn awr, ond sydd hefyd yn ein helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy wrth i ni gael adferiad o ofynion delio gyda’r Pandemig. Mae’r Gyllideb yn dangos ein hymrwymiad i ddiogelu a gwella gwasanaethau ac rydym wedi gwrando ar eich blaenoriaethau yn ein harolwg cyhoeddus drwy ddarparu dros £3m o gyllid ychwanegol ar gyfer Ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â chynllunio buddsoddiad mewn prosiectau Amgylcheddol, megis gwelliannau i briffyrdd.

Bydd y Gyllideb yn ein helpu i adeiladu cydnerthedd ariannol ar gyfer y gofynion fydd yn ddi-os yn wynebu llywodraeth leol ym mlynyddoedd y dyfodol.

Rydym yn agosáu’n gyflym at ben-blwydd dechrau’r cyfnod clo cyntaf ac felly ar 23 Mawrth bydd y Cyngor yn ymuno â sefydliadau ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig i nodi’r dyddiad hwn. Byddwn yn goleuo un o’n hadeiladau – y Swyddfeydd Cyffredinol – mewn melyn i gofio pawb a gollwyd i’r feirws ofnadwy yma. Mae’r adeilad yn ddewis addas, oherwydd fel canolfan frechu mae hefyd yn fegwn gobaith ar gyfer amser hapusach a llawer gwell i ddod.

Yn olaf, a gaf ofyn i chi barhau i gadw golwg ar eich gilydd. Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ac nad oes gennych unrhyw gefnogaeth, neu os ydych yn bryderus am rywun sy’n byw yn eich cymuned, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni ar 01495 311556.

Gadewch i ni ddal ati i gydweithio er mwyn #DiogeluCymru.

Diolch.

Cynghorydd Nigel Daniels
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

• Defnyddir ap COVID-19 wrth ochr dulliau olrhain cysylltiadau traddodiadol i hysbysu defnyddwyr os ydynt yn dod i gysylltiad gyda rhywun sydd wedyn yn cael prawf cadarnhaol am coronafeirws. Gallwch lawrlwytho ap COVID-19 y GIG o’r App Store neu Google Play Store. Mae mwy o wybodaeth ar ap COVID-19 y GIG ar gael yn www.covid19.nhs.uk

• I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar wasanaethau’r cyngor ewch i -  https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/emergencies-crime-prevention/coronavirus-covid-19-latest-information/

• Dilynwch ni ar:

Facebook – @blaenaugwentcbc
Twitter -  @BlaenauGwentCBC

• Mae’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf ar gael yma:

https://phw.nhs.wales/
https://llyw.cymru/
https://www.gov.uk/