Myfyrwyr Abertyleri yn gwneud argraff gyda datrysiad i ostwng gwastraff bwyd

Gwnaeth tri o ddysgwyr Blwyddyn 10 o Gymuned Ddysgu Abertyleri argraff enfawr ar y panel yn Her Arloesedd ‘Dyfodol Cynaliadwy’ Cysylltu Athrawon STEM yr Academi Beirianneg Frenhinol gyda’u ap a gynlluniwyd i helpu gostwng gwastraff bwyd byd-eang.

Gwnaethant gymaint o argraff fel y cafodd y myfyrwyr eu gwahodd i fynychu digwyddiad dathlu Rhaglen Peirianneg Cymoedd Cymru yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Dim ond 10 ysgol o bob rhan o Brydain a gafodd eu gwahodd.

Rhoddodd y myfyrwyr gynnig yng nghystadleuaeth Dyfodol Cynaliadwy: Her Arloesedd yr Academi Beirianneg Frenhinol, gyda phedwar categori i ddewis o’u plith i ddatrys problem byd go iawn. Gwnaethant ddewis dylunio ap a fyddai’n helpu i ostwng gwastraff bwyd byd-eang. Y syniad oedd creu ap a fyddai’n mesur yn gywir faint o bryd neilltuol y byddech ei angen yn seiliedig ar eich mesuriadau personol a gweithgaredd dyddiol a allai gyfathrebu gyda bwytai i greu dogn o’r maint priodol o’r pryd bwyd.

Mae Prosiect Peirianneg Cymoedd Cymru (WVEP) yn gynllun a ddatblygwyd ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Panasonic a’r Academi Beirianneg Frenhinol i greu canolfannau rhagoriaeth mewn addysgu STEM a gwella cyfleoedd dysgu yng nghymoedd de Cymru. Derbyniodd y rhaglen gyllid o Raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru.

Bu’r myfyrwyr yn llwyddiannus yng nghylch cyntaf y gystadleuaeth pan gawsant eu gwahodd i gael eu cyfweld am eu syniadau gan beirianwyr. Roeddent wedyn yn llwyddiannus yn mynd trwodd i ail gam y gystadleuaeth gan ennill trip i Lundain, ond yn anffodus nid oedd modd iddynt fynd oherwydd bod arholiadau’n cael eu cynnal. Fodd bynnag byddant yn mynychu dathliadau diwedd blwyddyn WVEP i arddangos eu gwaith a rhai gweithgareddau eraill a wnaeth yr ysgol fel rhan o’i chlwb STEM.

Dywedodd Erin Macdonald, Athrawes Gwyddoniaeth yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri:

“Rydym mor falch o’n dysgwyr yma yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri am y gamp enfawr hon. Mae’r argyfwng hinsawdd ym rhywbeth y dylai pawb ohonom bryderu amdano a bydd angen datrysiadau gwirioneddol flaengar i fynd i’r afael â’r problemau. Mae’n wych fod cenedlaethau’r dyfodol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cynlluniau fel hyn a medru gweithio fel tîm i gael syniadau gwych i broblemau byd go iawn.”

Mae Cymuned Ddysgu Abertyleri yn gweithio’n agos gyda gwahanol drefnwyr STEM drwy Flaenau Gwent a hefyd gyda chwmnïau unigol i alluogi dysgwyr i gael mwy o fynediad i gyfleoedd a phrofiadau bywyd go iawn. Mae dysgwyr ar draws Blynyddoedd 7-11 wedi cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau STEM tebyg i ddylunio awyren, peirianneg a datblygu peiriannau cod. Mae hefyd glwb ar ôl ysgol ar gyfer y dysgwyr hynny sydd eisiau ymchwilio STEM ymhellach.

Y nod yw dangos i ddysgwyr sut y gall astudio pynciau STEM, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, arwain at yrfaoedd STEM cyflog uchel. Mae hyn yn sylfaenol i uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru newydd.