Maes 3G Ysgol Brynmawr yn cael ei agor yn swyddogol gan Elliot Dee

Cafodd maes chwarae 3G amlbwrpas newydd ei agor yn swyddogol yn Ysgol Sefydliadol Brynmawr gan Elliot Dee, seren rygbi Cymru a’r Dreigiau.

Mae’r maes yn ganlyniad buddsoddiad o dros hanner miliwn o bunnau, diolch i waith partneriaeth rhwng yr ysgol, Cyngor Blaenau Gwent ac asiantaethau chwaraeon yng Nghymru.

Mae’r datblygiad newydd ym Mrynmawr yn golygu fod gan holl ysgolion uwchradd/pob oed Blaenau Gwent yn awr fynediad i ddarpariaeth o’r fath. Mae’r ysgol wrth ei bodd gyda’r cyfle i fedru cynnig addysg gorfforol a chyfleoedd chwaraeon gwell ar gyfer disgyblion ar y safle.

Yn ogystal â chael ei ddefnyddio gan ddisgyblion yr ysgol, bydd y maes hefyd ar gael i glybiau chwaraeon iau a hŷn lleol ar gyfer hyfforddiant a gemau.

Bu’r prosiect yn bosibl oherwydd partneriaeth rhwng yr ysgol, Cyngor Blaenau Gwent a dyraniad cyllid o £200,000 gan Chwaraeon Cymru drwy’r Rhaglen Cydweithredu Wynebau Artiffisial, sy’n cynnwys Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Hoci Cymru. Mae’r rhaglen fel arfer yn ariannu rhwng 10-12% o brosiect, ond gan gydnabod yr angen gwirioneddol am y ddarpariaeth hon cytunodd i ariannu cyfanswm o £200,000.

Dywedodd Gerard McNamara, Pennaeth yr ysgol:

“Mae pawb wrth yr ysgol wrth eu boddau. Dyma weithio partneriaeth ar ei orau oll a hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid am ddangos ymrwymiad go iawn i’r prosiect hwn. Bydd y maes newydd yn trawsnewid y ffordd y gallwn gyflwyno addysg gorfforol a gweithgareddau llesiant a chwaraeon yn ein hysgol, a bydd hefyd yn ased ar gyfer y gymuned chwaraeon yn ehangach. Rydym yn gynyddol yn creu ffyrdd newydd o groesawu’r gymuned ehangach i’n hysgol wych.”

Dywedodd Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

“Gwella cyfleusterau ar draws Cymru yw amcan strategol bennaf Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac rydym yn ddiolchgar fod Grŵp Cydweithredu Chwaraeon Maes yn parhau i gael effaith ar ein teulu  pêl-droed ar draws y wlad gyda’r cyfleuster cyffrous hwn ar gyfer pobl ifanc Brynmawr.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch i fod yn rhan o’r cyfle i weithio’n agos gyda’n partneriaid Chwaraeon Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru i sicrhau gwell cyfleusterau ar gyfer pob cymuned ar draws Cymru ac edrychwn ymlaen at gydweithio ymhellach i gyflwyno nifer o brosiectau pwysig yng Nghymru benbaladr wrth i ni ymdrechu i wneud pêl-droed yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.”

Dywedodd Owen Hathaway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus Chwaraeon Cymru:

“Mae Chwaraeon Cymru wrth ein bodd yn gweld ysgolion yn agor eu cyfleusterau chwaraeon tu hwnt i’r diwrnod ysgol fel y gall cymunedau lleol eu defnyddio. Gwyddom mai hon yw ein cynulleidfa chwaraeon fwyaf caeth a pha mor bwysig yw hi i wneud cynigion chwaraeon mor hygyrch ag sydd modd. Drwy ein sgyrsiau gyda phartneriaid daeth yn amlwg y byddai maes 3G yn ased wirioneddol i Frynmawr oherwydd y galw yn yr ardal, felly roeddem yn falch i ddarparu cyllid y Loteri Genedlaethol tuag at y prosiect hwn.”

Dywedodd Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn hynod falch i fod wedi gweithio mewn partneriaeth gydag Ysgol Sefydliadol Brynmawr a phartneriaid eraill i ddatblygu’r maes 3G newydd hwn, ac rwy’n hyderus y bydd yn ased wirioneddol i’r ysgol a hefyd y clybiau a thimau lleol sy’n edrych ymlaen at ei ddefnyddio.

“Mae hyn yn bwysig i Addysg wrth i ni barhau i weithio i godi safonau a rhoi’r cyfleoedd a’r amgylcheddau dysgu gorau oll a fedrwn i ddisgyblion. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn annog pawb ym Mlaenau Gwent i fyw bywyd iach ac egnïol; a bydd sicrhau bod cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gael ar garreg eu drws yn helpu gyda’r amcan llesiant yma.”

Derbynnir archebion yn awr ar gyfer y cyfleuster. I gael mwy o wybodaeth ewch i - https://portal.sportskey.com/venues/brynmawr-foundation-school