Mae pob pleidlais yn cyfrif tuag at ddyfodol Cymru

Mae ymgyrch genedlaethol wedi’i lansio er mwyn annog pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor cymwys i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022. Mae hyn er mwyn sicrhau bod holl bleidleiswyr cymwys yn manteisio ar y cyfle i gael dweud eu dweud, ac i wneud gwahaniaeth ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol.

Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli ac annog pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor cymwys yng Nghymru yn benodol i gofrestru erbyn 14 Ebrill ac yna phleidleisio ar 5 Mai.

Gyda’r angen i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc Cymru yn cael eu clywed, dangosodd ymchwil gan Lywodraeth Cymru fod y rhai hynny y mae pleidleisio yn newydd iddynt yn wynebu rhwystrau cymdeithasol a logistaidd. Mae’r ymgyrch hon yn anelu at fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny yn weithredol er mwyn sicrhau bod nifer cadarnhaol o unigolion yn cofrestru a phleidleisio yn 2022.

Dywedodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Mae hon yn ymgyrch hynod o bwysig, sy’n cael ei lansio ar adeg lle y mae llawer o ffocws ar wleidyddiaeth. Mae’n hanfodol ein bod yn meithrin cysylltiadau â’n holl bleidleiswyr newydd, yn ogystal â sicrhau ein bod yn dileu unrhyw rwystrau er mwyn eu galluogi i wybod pa mor bwysig yw eu llais a chymaint o wahaniaeth y bydd hynny yn ei wneud.

“Mae gennym genhedlaeth o bleidleiswyr newydd a ddylai allu arfer eu hawl yn ogystal â manteisio ar y cyfle i wneud gwahaniaeth y flwyddyn hon ac yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Mae hon yn genhedlaeth o unigolion sy’n ymwybodol o’r hinsawdd, sy’n ymwybodol yn gymdeithasol ac sy’n poeni am eu dyfodol a’u gyrfaoedd. Yn sicr, dyma’r lleisiau a allai wneud gwahaniaeth ym mis Mai.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod pob grŵp cymwys yn deall y gallai eu pleidleisiau wneud gwahaniaeth. Rydyn ni hefyd eisiau iddynt ddeall sut y gallant rannu barn am faterion sy’n effeithio arnynt, yn ogystal â sut y gallant gefnogi eu hardaloedd a’u cymunedau lleol drwy gofrestru a mynd ati i bleidleisio.”

Gan ganolbwyntio ar hygyrchedd, hwylustod a’r effaith o bleidleisio, bydd yr ymgyrch Gallaf mi allaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o’r camau ynglŷn â sut i gofrestru i bleidleisio, yn ogystal â’r hyn y gallai’r bleidlais honno ei olygu i’w cymunedau a’u hardaloedd lleol.

Mae Steffan, sy’n 17 oed ac yn byw ym Mhrestatyn, yn un o sêr yr ymgyrch, ac yn ymddangos mewn ffilmiau byr a fydd yn cael eu gweld ledled y wlad er mwyn annog pobl ifanc i bleidleisio:

“Mae gan bawb eu barn eu hunain, ac felly mae’n bwysig mynegi’r farn hon drwy bleidleisio yn eich etholiadau lleol.

“Mae pleidleisio’n rhoi’r cyfle i chi gael effaith ar sut mae eich ardal leol yn cael ei rhedeg, gan roi rheolaeth i chi dros sut mae arian yn cael ei wario ar faterion sy’n bwysig i chi.

“Rwy’n annog pob person ifanc yn gryf i bleidleisio, gan nad yw ein barn yn aml yn cyd-fynd â barn y cenedlaethau hŷn.”

Yn serennu hefyd yn yr ymgyrch y mae Zaneta, sy’n wreiddiol o wlad Pwyl ond bellach yn byw yng Nghymru, sy’n cefnogi’r galw i fwy o bobl sydd wedi dod i fyw i Gymru o dramor, i gofrestru i bleidleisio:

“Fel un o dramor sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni fod yn rhan o’r gymdeithas, ac mae pleidleisio yn gyfle i ni gael llais ar faterion sy’n effeithio arnon ni’n uniongyrchol.

“Pleidleisio yw ein cyfle i sefyll dros y materion sy’n bwysig i ni. Os na fyddwn yn pleidleisio, bydd rhywun arall yn gwneud y penderfyniad ar ein rhan ar sut y caiff ein trethi eu defnyddio, materion sy’n effeithio ar ddyfodol y gymuned, a’r ansawdd bywyd rydyn ni ei eisiau i’n hunain a chenedlaethau’r dyfodol.

“Os ydych chi o dramor a bellach yn byw yng Nghymru gallwch nawr bleidleisio yn yr etholiadau lleol.

Rwy’n eich annog i ddefnyddio’r bleidlais honno, gan mai mewn undod mae nerth a bydd ein llais yn cael ei glywed.”

Yn rhan o’r ymgyrch, bydd Diwrnod Cofrestru Pleidleiswyr yn cael ei gynnal ledled Cymru ar ddydd Iau 24 Mawrth. Bydd ffigurau blaenllaw, llyfrgelloedd, cymunedau, ysgolion a cholegau Cymru yn dod at ei gilydd er mwyn hyrwyddo’r neges allweddol o gofrestru i bleidleisio gan wneud gwahaniaeth i ddyfodol Cymru.

I gofrestru i bleidleisio ewch i: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio