Mae offer Profion Llif Unochrog ar gael o safleoedd o amgylch Blaenau Gwent.

Mae offer Profion Llif Unochrog ar gael o safleoedd o amgylch Blaenau Gwent.

Mae’r profion hyn ar gyfer pobl heb fod â  symptomau Coronafeirws. Profion llif unffordd cyflym ar gyfer COVID-19 os nad oes gennych symptomau - https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau

Dylai unrhyw un gyda symptomau Coronafeirws, yn cynnwys yr ystod ehangach o symptomau a gaiff eu cydnabod erbyn hyn, archebu Prawf Llif Unffordd llawn mewn canolfan brofi leol. Mae mwy o wybodaeth ar sut i archebu un ohonynt yma - https://gov.wales/getting-tested-coronavirus-covid-19

Defnyddir profion llif unffordd i ddynodi pobl gyda COVID-19 nad ydynt yn dangos symptomau. Os cânt eu gadael heb eu canfod, byddant yn parhau i ledaenu’r feirws. Mae profi rhai heb symptomau yn arf bwysig yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws. Gall pob achos positif a ddynodir helpu i atal llawer mwy o heintiadau.

Mae’n rhwydd defnyddio profion llif unffordd ac mae’r canlyniadau ar gael mewn 30 munud.

Bydd y cyfarpar ar gael o ddydd Llun 1 Mehefin o’r lleoliadau dilynol:

  • Llys Einion
    Abertyleri
    NP13 1DB
  • Canolfan Dysgu Gweithredol Brynmawr
    Sgwâr y Farchnad
    Brynmawr
    NP23 4AJ
  • Canolfan Dysgu Gweithredol Glynebwy
    20 Stryd James
    Glynebwy
    NP23 6JG

Gellir casglu profion o’r lleoliadau hyn o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.30am a 12.30pm.

Gellir hefyd eu casglu o ddyddiau Llun i ddydd Mercher, 9.30am i 12.30pm o:

• Tŷ Bedwellte
Stryd Morgan
Tredegar
NP22 3XN

Nid oes angen i chi drefnu apwyntiad i gasglu’r profion. Caniateir i chi gasglu dau becyn ym mhob ymweliad ar gyfer eich defnydd eich hun (mae hyn yn ddigon ar gyfer 7 wythnos os argymhellir profi ddwywaith yr wythnos).

Gellir hefyd anfon y profion llif unffordd i’ch cartref drwy eu harchebu yn - https://gov.wales/get-rapid-lateral-flow-covid-19-tests-if-you-do-not-have-symptoms#section-68472

I gael mwy o wybodaeth am Brofion Llif Unffordd, yn cynnwys canllawiau defnyddwyr ewch i  - https://gov.wales/lateral-flow-testing-people-without-symptoms