Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol llywodraeth y DU ac yn elfen arwyddocaol o’i chymorth ar gyfer lleoedd ledled y DU.
Prif nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU.
Mae’r gronfa wedi’i rhannu’n dri maes blaenoriaeth:
• Cymuned a Lle
• Cynorthwyo Busnesau Lleol
• Pobl a Sgiliau
Cynigir y grant o dan y ddarpariaeth Pobl a Sgiliau ac mae ganddo ddau brif nod: cymorth cyflogaeth i bobl economaidd anweithgar (hawlwyr budd-daliadau a rhai nad ydynt yn hawlio budd-daliadau) ac ariannu darpariaeth sgiliau i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i symud ymlaen mewn bywyd a gwaith, gan gynnwys cefnogi ardaloedd lleol i ariannu anghenion sgiliau lleol.
Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn gwahodd sefydliadau i wneud cais am gyllid i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 29 Mawrth 2023
Mae ffurflenni cais a chanllawiau ar gael yma.
Dychwelwch eich ceisiadau at: BGCBC-SPF@blaenau-gwent.gov.uk
Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: BGCBC-SPF@blaenau-gwent.gov.uk
Ffurflen Gais y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Canllawiau ar Wneud Cais am Grant Pobl a Sgiliau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin