Lansio Fflecsi yn Mlaenau Gwent

Rydyn ni wedi cymryd cam mawr arall ymlaen o ran ehangu’r gwasanaeth bws fflecsi, drwy ei gyflwyno mewn rhan arall o Gymru.

Gan weithio mewn partneriaeth, Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Stagecoach yn Ne Cymru, bydd Gwasanaethau E2 ac E4 Stagecoach yn cael eu disodli gan y gwasanaeth bws fflecsi newydd ar 14 Mehefin 2021.

Mae fflecsi yn cynnig gwasanaeth bws llawer mwy cyfleus ar draws ardal ehangach o ddechrau’r bore i hwyr y nos.  Rydych chi’n talu ar y bws fel unrhyw wasanaeth arall – y gwahaniaeth mwyaf yw eich bod yn archebu’r bws drwy’r ap, dros y ffôn neu drwy fynd i’r wefan.

Mae’r system archebu a reolir yn golygu bod teithwyr bws fflecsi yn sicr o gael sedd, sy’n helpu gyda mesurau cadw pellter corfforol.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae fflecsi yn dreial cyffrous iawn i ni wrth inni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.  Mae pandemig covid-19 wedi effeithio’n uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, wrth i ni symud ymlaen, diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth bennaf o hyd.

“Mae hyn yn gyfle i ni edrych ar ffordd newydd o weithredu trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydyn ni nawr yn cynnal cynlluniau peilot fflecsi ledled Cymru ac mae’n wych ei weld yn cael ei ehangu i Flaenau Gwent.”

Ychwanegodd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd / Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
“Rydyn ni’n falch iawn o gael gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar y gwasanaeth fflecsi newydd yma ym Mlaenau Gwent. Wrth i ni ddod allan o gyfyngiadau Covid-19 a gweld cynnydd yn y galw am drafnidiaeth gyhoeddus, bydd fflecsi yn cynnig tawelwch meddwl i deithwyr. Mae’r bysiau’n newydd sbon a bydd y gwasanaeth yn galluogi trigolion i fynd allan, gyda chysylltiadau uniongyrchol ag Ystad Ddiwydiannol Rasa, y siopau lleol ac Ysbyty Aneurin Bevan, mewn ffordd fwy cyfleus.”

Dywedodd Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr, Stagecoach yn Ne Cymru:
“Mae gan drafnidiaeth seiliedig ar alw'r potensial i lansio’n gyflym atebion trafnidiaeth gyhoeddus newydd, sy’n cael eu harwain gan dechnoleg lle mae’r angen mwyaf, ac i ategu ein gwasanaethau bysiau presennol ar draws Blaenau Gwent. Mae gwasanaeth fflecsi TrC wedi dangos sut gall trafnidiaeth seiliedig ar alw chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys y gwasanaeth fflecsi 152 yng Nghymoedd y Rhondda. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu’r gwasanaeth newydd arloesol hwn ar gyfer TrC a Chyngor Blaenau Gwent. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau’r gwasanaeth hyblyg newydd hwn a dysgu gan y cwsmer a’r adborth gweithredol”.

Yn ogystal â’r ddau fws newydd, bydd buddsoddiad sylweddol yn y seilwaith technoleg a safle bysiau i sicrhau bod teithwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth amser real mewn lleoliadau allweddol. 

Bydd y bysiau fflecsi yn gweithredu mewn dau barth a byddan nhw’n galluogi trigolion i gyrraedd y gwaith mewn pryd ar gyfer shifft 6.00am yn Ystad Ddiwydiannol Rasa a chyrraedd Ysbyty Aneurin Bevan. Does yr un ohonyn nhw’n cael eu gwasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd a bydd fflecsi hefyd yn cysylltu â’r trên olaf sy’n cyrraedd gorsaf reilffordd Glynebwy. Bydd cysylltiad hefyd â’r llwybr bws strategol X4 ar gyfer cysylltiadau ag Ysbyty Nevill Hall, Caerdydd, Merthyr Tudful a’r Fenni.

I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau, map y parthau a sut mae archebu, ewch i https://www.fflecsi.cymru/