Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5pm ddydd Gwener 26 Mai 2023 ac yn ailagor am 8am ddydd Mawrth, 30 Mai 2023.
Gellir cysylltu â’r gwasanaeth Argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol sef 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd gwasanaeth Piper Alarm hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau tu allan i oriau swyddfa am larymau Piper Alarm at 0845 056 8035.
Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau rhwng 5pm ddydd Gwener 26 Mai 2023 a bydd yn ail-agor am 9am ddydd Mawrth 30 Maii 2023.
Yn ystod cyfnod Gŵyl y Banc cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 4432.
Taliadau a Budd-daliadau
Os dymunwch wneud taliad mae llinell dalu awtomatig 24 ar ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan – https//www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/home/
Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, yn cynnwys casgliadau cewynnau/glanweithdra a gwastraff gwyrdd yn parhau fel arfer. Rhowch eich gwastraff ac ailgylchu allan i gael ei gasglu erbyn 7am ar ddiwrnod y casgliad. Cofiwch dorri unrhyw eitemau cardfwrdd mawr yn ddarnau llai cyn eu rhoi allan i’w gasglu.
Bydd Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi ar agor yn unol â’r arfer.
Gwasanaeth Cofrestru
Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Llun 29 Mai 2023. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau dydd Mawrth 30 Mai 2023 drwy apwyntiad yn unig.
Hybiau Cymunedol
Bydd Hybiau Cymunedol mewn llyfrgelloedd yng nghanol trefi yn cau am 5pm dydd Gwener 26 Mai 2023 ac yn ailagor yn unol â’r arfer am 9am ddydd Mawrth 30 Mai 2023. https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/resident/blaenau-gwent/community-hubs/