Gwybodaeth am gasglu offer profi COVID-19

 

Mae brechu a defnydd triniaethau newydd a all atal salwch difrifol, yn arbennig ar gyfer pobl sy’n glinigol fregus, wedi dileu’r angen am brofion cymunedol rheolaidd.

Bydd offer profi ar gael i’w archebu ar gyfer pobl yn y grŵp triniaeth Covid sy’n parhau i fod yn  fregus. Mae hyn yn garfan o tua 60,000 o bobl gyda chanser, clefyd ar yr arennau neu’r afu, syndrom Down neu’r rhain sydd ag imiwnedd isel iawn.

Bydd offer LFD ar gael drwy archebu ar-lein, neu drwy ffonio llinell gymorth 119 GIG i unigolion yn y grŵp hwn a’u cysylltiadau agos yn unig. Cysylltir ag unigolion yn y grŵp triniaeth i sicrhau eu bod yn gwybod sut i gael profion

Bydd mannau casglu cymunedol a fferyllfeydd ar gael tan 31 Mawrth ond mae’r stoc yn gyfyngedig a gofynnwn i chi fod yn ystyriol wrth ofyn am gyflenwadau.

Ar ôl 31 Mawrth rydych yn gymwys i gael profion LFD ar-lein drwy ffonio 119 os:

  • oes gennych symptomau Covid-19
  • yw meddyg neu arbenigwr wedi dweud eich bod yn gymwys am driniaethau COVID-19 newydd. Mae mwy o wybodaeth am driniaethau yma: https://gov.wales/covid-19-treatments
  • ydych yn mynd i ymweld â rhywun sy’n gymwys am driniaethau newydd COVID-19
  • yw eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn i chi gymryd prawf
  • oes gennych COVID-19 ac eisiau gwirio os yw eich canlyniad prawf yn dal yn gadarnhaol ar ôl diwrnod 5