Gwneud Gofalu yn Weladwy a Gwerthfawr

Mae’r Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol sy’n dathlu ac yn cydnabod cyfraniad hanfodol gofalwyr di-dâl Prydain – gan gefnogi aelodau teulu a chyfeillion sy’n hŷn, sydd ag anabledd, salwch meddwl neu gorfforol neu angen help ychwanegol wrth iddynt heneiddio.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymroddedig i gefnogi gofalwyr di-dâl ac i ddathlu eich holl waith gwych.

Ar ôl blwyddyn heriol i bawb ohonom, hoffem yn neilltuol ddiolch i chi am eich holl waith, mae gan gofalwyr di-dâl rôl hanfodol wrth gefnogi systemau iechyd a gofal cymdeithasol y wlad a rydym yn ddiolchgar tu hwnt i chi gyd, bob un ohonoch.

Os hoffech gael cynnal Asesiad Gofalwyr neu dderbyn gwybodaeth a chyngor am eich rôl gofalu, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Cefnogi Gofalwyr ar 01495 315700 neu yn lle hynny gysylltu â’ch meddygfa deuluol a gofyn i’r derbynnydd eich cyfeirio i Wasanaeth Ymgysylltu Gofalwyr Meddyg Teulu sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol yn rhad ac am DDIM.

Ewch i'n tudalen Gofalwr i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth.