Gwent yn Dathlu Pythefnos Gofal Maeth© â Blodau Haul

Y Pythefnos Gofal Maeth hwn (9 -22 Mai 2022), mae Gwent yn dathlu’r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth wedi ei wneud i fywydau plant ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. O ofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros nifer o flynyddoedd, i’r rhai sy’n cychwyn ar eu taith faethu i helpu plant i gael dyfodol gwell.

Pythefnos Gofal Maeth (Foster Care Fortnight©) yw’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth fwyaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer gofal maeth, sy’n cael ei darparu gan yr elusen faethu amlwg, The Fostering Network. Y thema eleni yw #MaethuCymunedau i ddathlu cryfder a gwytnwch cymunedau maethu a’r holl y maent yn ei wneud i sicrhau bod plant yn cael gofal diogel ac yn cael eu cefnogi i ffynnu. 

Felly'r mis Mai hwn, mae Blaenau Gwent yn gofyn i breswylwyr helpu i fywiogi’r rhanbarth, trwy blannu hadau blodau haul yn eu gerddi a rhoi lluniau ohonynt ar-lein yn ogystal â chynnal cystadleuaeth i ddylunio blodyn haul ar gyfer yr holl ddisgyblion oedran cynradd. Er mwyn cael gwybod rhagor ewch i:

Bwriad yr ymgyrch yw tynnu sylw at y nifer o ffyrdd y mae pobl sydd yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod y pandemig Covid-19 – ac amlygu’r angen am ragor o ofalwyr maeth ymroddedig. Mae’r thema blodau haul yn cynrychioli’r ffordd y gall gofalwyr maeth feithrin plentyn er mwyn iddo ffynnu a thyfu i gyrraedd ei botensial llawn.

Dywedodd Tanya Evens, Pennaeth Gwasanaethau Plant i Maethu Cymru yng Ngwent: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf yn sicr wedi bod yn heriol ond rydym wedi gweld cymaint o gydymdeimlad ac anhunanoldeb gan ein gofalwyr maeth ar draws Gwent, sydd wedi agor eu drysau i blant a rhoi lle diogel iddyn nhw yn ystod y pandemig Covid-19 pan oedd gweddill y wlad yn cael trafferth i weld eu teuluoedd eu hunain, hyd yn oed.

Mae maethu wedi gorfod addasu i’r amgylchiadau anarferol yr oeddem ni i gyd yn cael ein hunain ynddyn nhw ac fe wnaeth ein gofalwyr maeth wirioneddol wynebu’r her i roi gofal a chefnogaeth eithriadol i blant a theuluoedd oedd eu hangen. Rydym am ddiolch yn fawr a chyfleu ein gwerthfawrogiad o bopeth y maen nhw wedi ei wneud.”

Mae Maethu Cymru am annog rhagor o bobl i ddod yn ofalwyr maeth i’w hawdurdod lleol fel bod plant yn gallu aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a’u teulu ac aros yn eu hysgol pryd bynnag y bydd yn bosibl. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu hunaniaeth yn ystod cyfnod o newid.

Dywedodd Tanya hefyd: “Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli mai eich awdurdod lleol, eich cyngor lleol, sy’n gofalu am blant pan fydd eu teulu yn cael anawsterau neu pan fydd plant yn byw mewn sefyllfaoedd lle mae cam-drin ac esgeulustod, a’ch awdurdod lleol sy’n dod o hyd i le diogel iddyn nhw ac sy’n gyfrifol amdanyn nhw.

Mae llwyth o wybodaeth yn nhîm maethu awdurdod lleol Maethu Cymru a gweithwyr cymdeithasol sydd i gyd yn gweithio gyda’i gilydd a theuluoedd lleol ac ysgolion lleol i lunio gwell dyfodol i blant lleol. 

Trwy faethu yn lleol, rydych yn helpu plant i aros yn eu cymuned, gyda’r ardal, acen, ysgol, iaith, ffrindiau a gweithgareddau y maen nhw’n gyfarwydd â nhw. Mae’n cadw eu cysylltiadau ac yn helpu i gynyddu sefydlogrwydd a hyder.

Fe fyddem yn annog pobl, nid dim ond i faethu, ond i faethu gyda’u hawdurdod lleol, sy’n rhan o Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 awdurdod lleol nid er elw sy’n gyfrifol am y plant yn ein gofal.”

Un ofalwraig faeth sydd wedi penderfynu agor ei chalon a’i chartref i ofalu am blant a phobl ifanc yw Diane Faulkner, gofalwraig maeth hirdymor ym Mlaenau Gwent.

Dywedodd Diane: “Pan ddechreuais faethu gwyddwn fod plant yn cael eu symud o gwmpas o dref i dref. Doeddwn i ddim eisiau hynny a theimlwn ei bod yn bwysig eu cadw am ofal hirdymor er mwyn i blant lleol aros yn eu cymuned leol.”

Cofiwch dagio eich lluniau blodau haul ar dudalen Facebook a Twitter eich awdurdod lleol, er mwyn i ni gael gwybod sut mae eich blodau haul yn tyfu! Hwyl ar y plannu!

Er mwyn cael gwybod sut i faethu ewch i

Blaenau Gwent fosterwales.blaenau-gwent.gov.uk

Ffôn: 01495 357792 neu 01495 356037

E-bost: fostering@blaenau-gwent.gov.uk