Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn parhau i gefnogi oedolion a phlant drwy gydol y pandemig

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi ei lythyr Sicrwydd ar gyfer Cyngor Blaenau Gwent yn dilyn arolwg a gynhaliwyd ym mis Mai 2021 a chafodd ei ganfyddiadau eu croesawu gan y Pwyllgor Gweithredol heddiw.

Diben y gwiriad sicrwydd oedd adolygu pa mor dda mae gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn parhau i helpu a chefnogi oedolion a phlant drwy gydol y pandemig, gyda ffocws ar ddiogelwch a llesiant.

Canolbwyntiodd y gwiriad sicrwydd ar ddau brif gwestiwn:

1. Pa mor dda mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau statudol i gadw pobl sydd angen gofal a chymorth yn ddiogel a hyrwyddo eu llesiant yn ystod y pandemig?

2. Beth mae’r awdurdod lleol yn ei wneud i atal yr angen i blant fynd i ofal ac a yw plant yn dychwelyd gartref at eu teuluoedd yn ddigon cyflym lle mae’n ddiogel gwneud hynny?

Roedd meysydd penodol o adborth cadarnhaol yn cynnwys:
• Dywedodd pobl y gwnaethom siarad â nhw wrthym fod yr awdurdod lleol wedi cadw cysylltiad diogel gyda nhw drwy gydol y pandemig. Lle’r oedd angen, mae cyswllt wyneb-i-wyneb diogel ac uniongyrchol wedi parhau. Siaradodd llawer o bobl am staff yn mynd yr ail filltir a thu hwnt.

• Dengys tystiolaeth y gofynnwyd am farn pobl ac y cafodd eu lleisiau eu clywed.

• Teimlai’r rhan fwyaf o ymarferwyr fod cydweithwyr a rheolwyr yn eu cefnogi ac ystyrient eu bod yn gallu ymdopi â’u llwyth gwaith. Canfuwyd fod ysbryd staff yn dda a bod y rhan fwyaf o ymarferwyr yn gadarnhaol am eu profiad o weithio i’r awdurdod lleol.

• Mae’r awdurdod lleol wedi cyflwyno ei strategaeth yn llwyddiannus ar gyfer gostwng nifer y plant sy’n derbyn gofal, gan arwain at ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer plant o fewn y system gofal.

• Siaradodd staff am bwysigrwydd y tîm Cefnogi Newid a Fy Nhîm Cefnogi (MyST) sy’n gweithio’n drylwyr gyda theuluoedd i atal pobl ifanc rhag ymuno â’r system gofal.

• Mae atal yn rhan ganolog o’r strategaeth a chanfu Arolygiaeth Gofal Cymru fod ymrwymiad gwasanaethau plant i ddatblygu gwasanaethau Cymorth Cynnar ac Atal yn awr yn amlwg iawn mewn gwasanaethau plant a hefyd gwasanaethau oedolion.

• Cafodd yr ymarfer i sefydlu os oes gan bobl y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau penodol a lle bo angen i wneud penderfyniadau budd gorau ar eu rhan ei adlewyrchu mewn cofnodion ac roedd sampl o asesiadau a welwyd o ansawdd da.

• Roedd y Tîm Diogelu’n gweithio’n dda gyda phobl o bob rhan o’r sector. Canfu Arolygiaeth Gofal Cymru dystiolaeth o gydweithredu da rhwng gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu a’r trydydd sector yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl i gyflawni eu deilliannau diogelwch.

• Siaradodd pobl ifanc a adawodd ofal yn gadarnhaol am y gefnogaeth a gawsant gan eu cynghorwyr proffesiynol. Teimlent i gyd fod ymrwymiad eu cynghorwyr personol wedi eu cefnogi i bontio i fywyd fel oedolion.

Mae’r Cyngor yn teimlo fod yr adroddiad yn gadarnhaol ac yn adlewyrchiad da o’r gwasanaeth. Bydd yn galluogi’r adran i gynllunio ar gyfer y dyfodol a rhoddir adroddiadau parhaus ar wariant, risg a pherfformiad ac mae’n rhoi llinell sylfaen ar ble mae’r adran arni a lle y dylai fod yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd John Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Rwy’n falch fod Gwiriad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein gweithlu ar adeg o alw digynsail am eu gwasanaethau. Er y pwysau ariannol ac adnoddau, mae’r tîm bob amser yn canolbwyntio ar sefydlogrwydd, diogelwch a llesiant teuluoedd sy’n defnyddio ein gwasanaethau mewn amgylchiadau a all yn aml fod yn anodd.

"Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ein dull gweithredu aml-asiantaeth cadarnhaol a chydweithio gyda darparwyr gwasanaethau a gomisiynwyd tebyg i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y cysylltiadau hyn yn y dyfodol."