Gwaith yn dechrau ar ddatblygiad tai ar hen safle Ysgol Gyfun a choleg Glynebwy

Mae’r awdurdod lleol wedi galw prosiect £29m i ddod â mwy na 1250 o gartrefi y mae eu mawr angen i Glynebwy yn “ddatblygiad newydd cyffrous”.

Mae Persimmon Homes, un o gwmnïau adeiladu tai mwyaf Prydain, wedi dechrau gwaith ar 277 tŷ ar hen safle Ysgol Gyfun a Choleg Glynebwy.

Enw’r datblygiad ar Heol Waun-y-Pound fydd Carn y Cefn a bydd yn cynnwys tai dwy, tair a phedair ystafell wely.

Bydd cyfanswm o 55 o’r cartrefi ar gael ar rent cymdeithasol gan gymdeithas tai United Welsh ar gyfer darpar denantiaid sydd ar Restr Tai Gyffredin Blaenau Gwent.

Yn ogystal â darparu cartrefi y mae angen dybryd amdanynt yn yr ardal, bydd y datblygiad yn creu mwy na 200 o swyddi dros y cyfnod adeiladu o bum mlynedd, yn ogystal â rhoi hwb o £7m y flwyddyn i’r economi lleol.

Cytunodd Persimmon i gyfrannu £783,354 tuag at ddarpariaeth addysg, a gaiff ei rannu rhwng Ysgolion Cynradd Glyncoed a Willowtown.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd: “Rwyf yn wirioneddol falch fod y gwaith wedi dechrau ar y datblygiad newydd cyffrous hwn. Mae hyn yn enghraifft ragorol o sut y gall gweithio mewn partneriaeth fod o fudd i gymunedau a’r economi lleol, gan alluogi pobl i brynu eu cartref cyntaf a hefyd greu llawer o gyfleoedd hyfforddii a swyddi ychwanegol.”

Dywedodd Bethan McPherson, Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig: “Mae perthynas waith gref gydag un o’n partneriaid datblygu allweddol, United Welsh, ynghyd ag ymrwymiad cadarn i gyflawni, wedi’n galluogi i ddenu cwmni adeiladu tai mawr i Flaenau Gwent, gan ddarparu cartrefi ar y farchnad agored a chynyddu ein cynnig tai cyffredinol i breswylwyr lleol a’r rhai sy’n dymuno symud i’r ardal.”

Dywedodd Lynn Morgan, Cyfarwyddwr Datblygu ac Adfywio United Welsh: “Mae’n wych gweld gwaith yn dechrau ar y safle yng Nglynebwy. Bydd cael cartrefi ar gael ar rent gymdeithasol yn natblygiad Carn y Cefn yn fanteisiol i’r ardal a’i phreswylwyr a hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru.

“Mae creu cymunedau llawn o gartrefi fforddiadwy, ansawdd uchel yn flaenoriaeth allweddol i United Welsh ac mae’r datblygiad hwn yn gam enfawr tuag at hynny. Edrychwn ymlaen at weld y cartrefi yn dod yn fyw.”

Mae mwy na 1,000 o bobl wedi dangos diddordeb yng nghartrefi Carn y Cefn, fydd yn mynd ar werth ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr, gyda disgwyl i’r preswylwyr cyntaf yn symud i mewn yn y gwanwyn neu haf y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Liam Scott, Cyfarwyddwr Adrannol Rhanbarthol Persimmon Homes: “Rydym yn hynod falch i fod yn symud ymlaen gyda’r datblygiad sylweddol hwn yng Nglynebwy.

Cafodd y datblygiad hwn ei wneud yn bosibl drwy gydweithio cryf gan nifer o randdeiliaid, nid yn lleiaf gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

“Mae’r buddion sy’n gysylltiedig gyda’r datblygiad preswyl wedi eu profi ac yn amlwg.

“Ond mae manteision adfywio datblygu’r safle hwn yn ymestyn tu hwnt i’r ffactorau economaidd a bydd yn rhoi gwaddol gymdeithasol ac amgylcheddol barhaol. Edrychwn ymlaen at weld cymuned newydd yn dod i’r amlwg.”

Gall pobl gofrestru diddordeb yn y cartrefi drwy ffonio 01495 364 202 neu ymweld â
www.persimmonhomes.com