Gwaith celf wedi ei ysbrydoli gan natur

Mae gwaith celf newydd wedi cael ei ysbrydoli gan natur yn ymddangos mewn mannau gwyrdd ar draws  Gwent, gan annog mwy o bobl i werthfawrogi’r natur yr ydym yn gweld yn ein cymunedau.

Mae’r darnau wedi eu datblygu fel rhan o’r prosiect Natur Wyllt, ac yn anelu i godi ymwybyddiaeth o’r dirywiad ymhlith pryfed peillio a’n annog gweithredu ar lefel leol, sydd yn atgyfnerthu   dull rhanbarthol o reoli dolydd ar draws ardal Gwent.

Dros yr haf, mae cymunedau wedi bod yn brysur yn dylunio a’n adeiladu gwaith celf mosäig gyda’r arlunydd Stephanie Roberts, sydd yn adlewyrchu harddwch natur yn eu mannau gwyrdd lleol.

Mae’r gwaith celf wedi eu gosod ar hyd  a lled Gwent, sef yng Ngilfach, Bargoed, Parc Bryn Bach, Tredegar, Maes Cymunedol Rogerstone, Rogerstone, Fairhill a Chwmbrân.

Mae Parc Bryn Bach, Tredegar, yn gartref i gerflun Blaenau Gwent, yn ymyl yr Ardd Synhwyraidd. Mae’r mosaig yn dathlu Carpiog y Gors a’r Pry Hofran Oren. Mae’r celfweithiau cymunedol newydd yn dathlu’r berthynas rhwng blodau gwyllt, peillwyr a phobl Gwent. Bydd y celfweithiau yn ganolbwynt dathliad yn y gwanwyn, gan edrych ymlaen at dymor cyffrous o natur o’n blaenau.

Mae’r gwaith celf cymunedol newydd yn dathlu’r berthynas rhwng blodau gwyllt, pryfed peillio a phobl Gwent. Y gwaith celf fydd y pwynt ffocws ar gyfer dathliad yn y gwanwyn, gan ddisgwyl ymlaen at dymor cyffrous o natur.  

Mae’r prosiect celf cymunedol yma yn cael ei gefnogi gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig sydd yn cael ei ariannu gan raglen Llywodraeth Cymru, Grant Caniatáu Adnoddau Naturiol a Llesiant.