Gwahoddiad i roi eich barn ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10-mlynedd y Cyngor

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gofyn am adborth i helpu llunio ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, sy’n nodi sut mae’n anelu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws bwrdeistref Blaenau Gwent.

Prif nod y Cynllun yw gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i greu ‘cymuned Blaenau Gwent sy’n cofleidio’r Gymraeg a’i diwylliant gyda hyder a balchder.’

Mae’r Cynllun, fydd yn rhedeg o fis Medi 2022 i fis Medi 2032 ar ffurf drafft ar hyn o bryd a chynhelir ymgynghoriad ar-lein tan ddydd Llun 3 Ionawr 2022. Bydd sylwadau gan breswylwyr ac amrywiaeth o randdeiliaid yn cynnwys ysgolion, cyrff llywodraethu, y Fforwm Addysg Gymraeg, awdurdodau lleol cyfagos, sefydliadau addysg uwch, Comisiynydd y Gymraeg, Estyn a thimau blynyddoedd cynnar, yn helpu i lywio’r cynllun terfynol a gaiff wedyn ei anfon i Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.

Mae’r Cyngor yn parhau’n hollol gefnogol i uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a’i strategaeth genedlaethol ‘Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg.’

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg, Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Gymraeg ym Mlaenau Gwent. Rydym yn ymroddedig ac mae gennym gyfle i wella ein system addysg ymhellach a rydym mewn sefyllfa gref i hwyluso twf a datblygiad parhaus o’r Gymraeg ac addysg wrth weithio tuag at Cymraeg 2050.

“Mae gennym weledigaeth, nod a thargedau clir sy’n uchelgeisiol ac a fydd yn sicrhau safonau’r ddarpariaeth y mae ein dysgwyr a’n teuluoedd yn eu haeddu. Mae gennym hefyd bartneriaeth gref iawn yn y Fforwm Addysg Gymraeg, ynghyd ag awdurdodau cyfagos. Gan gydweithio gallwn a medrwn adeiladu ar lwyddiannau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-20 Blaenau Gwent.”

Mae’r ymgynghoriad yn awr yn fyw ar wefan y Cyngor, mae mwy o wybodaeth yn– https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/cyngor/polisiau-strategaethau-a-chynlluniau/ymgynghoriad-cynllun-strategol-cymraeg-mewn-addysg-2022-32/