Galwad i bawb sy'n 16 neu 17 oed!

Galwad i bawb sy'n 16 neu 17 oed – Cofrestrwch i bleidleisio erbyn y DYDDIAD CAU ar 19 Ebrill

Eleni, bydd etholiad hanesyddol pan fydd gan bobl ifanc 16 a 17 oed yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd 2021. Fodd bynnag, mae'r dyddiad cau yn agosáu, ac mae angen i'r bobl ifanc hynny gofrestru erbyn dydd Llun 19 Ebrill.

Felly, peidiwch â cholli'ch llais – Mae camau mawr wedi eu cymryd yng Nghymru eleni i roi llais i bobl ifanc, felly, mae'r rhai 16 a 17 oed ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu hannog i gofrestru i bleidleisio erbyn dydd Llun 19 Ebrill 2021 i sicrhau eu bod nhw'n cael dweud eu dweud a chreu hanes.

Yn y byd sydd ohoni, mae pleidleiswyr ifanc yn hollbwysig ac, fel person ifanc, mae'ch pleidlais yn cyfrif. Os ydych chi'n gymwys, cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio – mae'n gyflym ac yn rhwydd, a bydd yn sicrhau eich bod chi'n gallu cymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021.

Beth fydd ei angen arnoch chi?

Y cyfan y bydd ei angen arnoch chi yw 5 munud a'ch rhif Yswiriant Gwladol. Fodd bynnag, os nad oes gennych chi eich rhif Yswiriant Gwladol, gallwch chi ddal i gofrestru i bleidleisio – ticiwch y blwch yn nodi nad ydych chi'n gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol, a bydd Gwasanaethau Etholiadol Caerffili yn cysylltu â chi yn y dyfodol agos i gael prawf o bwy ydych chi.