Ffyrdd newydd i ddysgu ar gyfer cenhedlaeth newydd

Mae’r setiau sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf gyda’r economi byd-eang wedi esblygu’n syfrdanol gan olygu bod angen dulliau newydd ac arloesol i hyfforddi gweithlu’r dyfodol. Yn bennaf oherwydd datblygiadau technolegol, mae llawer o swyddi wedi diflannu’n llwyr, oherwydd awtomeiddio, tra bod rhai newydd yn ymddangos bob dydd. Mae’r ffyrdd mae myfyrwyr yn rhyngweithio, dysgu a chysylltu hefyd wedi newid felly mae angen rhaglen newydd o ddysgu i unioni’r fantol.

Mae STEM yn ddull o ddysgu a datblygu sy’n integreiddio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae sgiliau allweddol tebyg i ddatrys problemau, llythrennedd digidol, dadansoddiad beirniadol, cyfathrebu a meddwl annibynnol ymysg y sgiliau newydd sydd eu hangen i greu gweithlu cystadleuol a all addasu i’r newidiadau yn y gweithle.

I fynd i’r afael â’r prinder sgiliau mae Cymoedd Technoleg wedi datblygu prosiect Hwyluso STEM yn seiliedig o fewn ysgolion ym Mlaenau Gwent. Wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru, caiff y cynllun ei sefydlu i ddechrau o fewn clwstwr ysgolion Glynebwy. Ei nod fydd paratoi disgyblion ar gyfer yr amgylchedd gwaith modern a hefyd ategu cwricwlwm yr ysgol.

Bu Louise Juliff, Arweinydd Tîm y prosiect, yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau partner i ddynodi a gwella gweithgareddau dysgu. Mae’n sicrhau fod y prosiect newydd yn cyflawni’r sylfaen ysgolion, cyflogaeth a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer busnesau, sy’n hanfodol ar gyfer datblygu yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio gyda Chyngor Blaenau Gwent:
 “Mae’r prosiect hwn yn gynllun gwych fydd yn helpu plant ifanc Blaenau Gwent i gael mynediad i’r swyddi sgil uchel fydd ar gael iddynt. Mae cynifer o gyfleoedd i ni fanteisio arnynt ac rydym eisoes wedi dynodi rhai posibiliadau cyffrous iawn fydd yn gwneud i blant sylweddoli pa mor fanteisiol yw pynciau STEM r gyfer gyrfaoedd y dyfodol”.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
“Ar amser pan fo dyfodol gwaith yng Nghymru yn cael ei yrru gan arloesedd digidol yn gyflymach nag erioed o’r blaen, mae’n hanfodol ein bod yn codi uchelgais ein dysgwyr i goleddu technolegau sy’n esblygu’n ddi-baid.
 “Bydd prosiect Hwyluso STEM y Cymoedd Technoleg yn paratoi disgyblion ar gyfer eu taith i fyd gwaith drwy gynyddu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd cyffrous ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

“Mae hyn yn rhan o’n gweledigaeth fawr i adfywio’r cymoedd fel magned ar gyfer diwydiant technoleg uchel ac rydym yn ymroddedig i hybu arloesedd, cydweithio a ffyniant economaidd hirdymor yn yr ardal drwy raglen Cymoedd Technoleg”.

Mae Jasmin Bidwell, Swyddog Cydlynu â Diwydiant ac sy’n rhan o dîm y prosiect, wedi dechrau cysylltu gyda busnesau lleol i sicrhau fod pob agwedd o addysg yn diwallu’r arbenigedd sydd ei angen ar gyfer busnesau. Mae galw uchel ymhlith cyflogwyr am gymwysterau STEM a bydd y dull gweithredu newydd hwn yn codi uchelgais disgyblion, tra’n darparu gweithlu a all ateb gofynion busnes y dyfodol ledled Blaenau Gwent.