Ffos i atal tipwyr anghyfreithlon ym Manmoel

Mae ffos yn ymestyn dros dair milltir wedi ei hagor mewn man drwg am dipio anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent mewn ymgais i atal defnyddio cerbydau i dipio sbwriel yn anghyfreithlon.

Cafodd y ffos ar ffordd mynydd Manmoel ei hariannu gan Caru Cymru a Cadw Cymru’n Daclus a’i chomisiynu gan @CBSBlaenau Gwent.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Gweithredol Lle ac Amgylchedd:

“Nid oes unrhyw esgus dros dipio anghyfreithlon. Mae’n ddolur llygad yn ein tirwedd hardd ac yn hollol anghymdeithasol. Gwyddom fod ein preswylwyr yn ei gael yn annerbyniol hefyd, ac fel Cyngor gwnawn bopeth a fedrwn i’w atal a chosbi’r rhai sy’n gyfrifol. Mae hon yn arf arall yn ein brwydr yn erbyn tipio anghyfreithlon sydd hefyd yn cynnwys camerâu symudol a gwyliadwriaeth gudd.

“Byddwn hefyd yn annog unrhyw un sy’n talu i gael gwared â sbwriel i wneud yn siŵr fod gan y cwmni y maent yn ddefnyddio drwydded iawn a’u bod yn cael gwared ag ef yn gywir, neu gallech chi fod yr un sy’n wynebu dirwy.”

Mae’r wybodaeth hon ar gael ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru yma -  https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/waste-carriers-brokers-and-dealers-public-register/?lang=cy