Fersiwn ddigidol a BSL o lyfr llwyddiannus gan Ofalwyr Ifanc a lansiwyd i ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr!

Mae Gofalwyr Ifanc yn cyfrannu mewn ffordd anhygoel i gymdeithas, ac yng Ngwent rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth ar draws gwahanol feysydd yn eu rolau gofalu. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gofalwyr, y Bwrdd Iechyd, Awdurdodau Lleol, y Cyngor Iechyd Cymunedol a'r Trydydd sector i gefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed.
 
I gydnabod Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 25 Tachwedd, mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gofalwyr Gwent yn falch o gefnogi achlysur lansio fersiwn ddigidol a BSL o lyfr llwyddiannus gan Ofalwyr Ifanc ‘Mae Gofalu yn Cŵl’.

Aethpwyd ati ar y cyd i weithio gyda Petra Publishing a Cyngor Cymru i Bobl Fyddar i greu’r fersiynau hyn i gyrraedd mwy o ofalwyr ifanc ar draws ein rhanbarth.

*** Gellir prynu copïau caled o'r llyfr gan Petra Publishing www.petrapublishing.org ***

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Rwy’n falch iawn o gefnogi lansiad y fersiynau ar-lein “Mae Gofalu yn Cŵl” sydd bellach yn cynnig Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i helpu gofalwyr byddar ifanc i fwynhau’r stori hyfryd hon. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfraniad gofalwyr ifanc a'u caredigrwydd a'u hymdrech i gefnogi aelod o'u teulu yn cael ei werthfawrogi a'i gydnabod yn fawr.

Meddai Gaye Hampton, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar Mae ‘’Mae Gofalu'n Cŵl" yn llyfr hyfryd ac roeddem mor falch ein bod wedi cael cais i greu’r BSL i gyd-fynd â’r stori. Mae’n gyfle gwych i ofalwyr ifanc sy'n fyddar, allu gweld a deall nad ydyn nhw ar eu pennau'u hunain."

Mae'r llyfr hwn, a ysgrifennwyd gan ofalwyr ifanc eu hunain, yn seiliedig ar brofiadau bywyd gofalwyr ifanc go iawn. Mae'r llyfr wedi'i osod mewn jyngl lle mae Jack sy'n barot, yn dod ar draws ambell i anffawd wrth ofalu am ei chwaer fach Thelma a cheisio'i hamddiffyn. Mae'r fath emosiynau, sef cariad, gofal, perygl, derbyn dewrder a chyfeillgarwch yn rhoi hyder i eraill yn y jyngl gefnogi ei gilydd a phrofi mai nad nhw yn unig sy'n gofalu, a bod bod yn wahanol yn gwbl anhygoel.

Ychwanegodd Tracy Wallbank, Petra Publishing ‘’Roedd yn fraint i Petra Publishing fod yn rhan o ledaenu neges mor bwysig am ofalwyr ifanc. Pleser oedd gweithio gyda'r bobl ifanc, ac nid oedd bob amser yn hawdd heb gyswllt wyneb yn wyneb. Gobeithiwn y bydd y canlyniad terfynol yn lledaenu'r neges ymhell ac agos. Nid ydych chi ar eich pen eich hun, a gofalu yw'r hyn sy'n ein gwneud ni'n arbennig.

Roedd y prosiect hwn yn wirioneddol ysbrydoledig ym mhob ffordd oherwydd, yn ogystal â gweithio gyda’r gofalwyr ifanc i ysgrifennu’r llyfr stori, cawsom y pleser hefyd o weithio ochr yn ochr â dau gyfieithydd trwm eu clyw o Gyngor Cymru i Bobl Fyddar, i gynhyrchu fersiwn ddigidol o'r stori gydag iaith arwyddion.

“Nid oes rhaid i chi fod yn ofalwr ifanc i fwynhau’r llyfr hwn. Gall unrhyw un ei ddarllen, gwrando arno neu ei weld, ac mi fydd yn eich helpu i feddwl am ofalwyr ifanc”
 
Dywedodd Naheed, Arweinydd y Rhaglen Gofalwyr Rhanbarthol “Mae Gofalwyr Ifanc wedi bod yn rhyfeddol wrth ysgrifennu'r llyfr hwn. Stori fendigedig a thwymgalon gyda lluniau lliwgar. Stori gyda gwersi bywyd cudd yn cyfleu neges ystyrlon. Mae gofalu wir yn cŵl.! “
 
Gellir cael hyd i fersiynau digidol a BSL o 'Mae Gofalu yn Cŵl' trwy'r cod ar y llyfr neu trwy gyrchu cyfrif YouTube Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent.

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent - YouTube