Estyn yn cydnabod gwaith i gefnogi dysgwyr yn ystod y pandemig

Mae Pwyllgor Gweithredol y Cyngor wedi clywed sut mae Estyn wedi cydnabod gwaith effeithlon y Cyngor, mewn partneriaeth gyda ein hysgolion, i gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd ym Mlaenau Gwent yn ystod pandemig COVID-19.

Cynhaliodd Estyn – arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru – adolygiad ar waith yr awdurdod lleol yng nghyswllt addysg a’r pandemig yn ystod cyfnod mis Mehefin i fis Tachwedd 2020.

Mae’r arolygiaeth wedi paratoi adroddiad Adolygiad Thematig cenedlaethol ar eu canfyddiadau sydd yn gyffredinol gadarnhaol ac yn lleol yn cydnabod gwaith y Cyngor mewn pedwar prif faes cameo:

- Cydweithio cryf
Gweithio’n dda gyda chydweithwyr o feysydd gwasanaeth o bob rhan o’r Cyngor, a phartneriaid allanol, i ymateb mewn modd priodol i anghenion dysgwyr tra’n cydymffurfio gyda chanllawiau’r Llywodraeth i sicrhau fod dysgu a gofal plant wedi parhau’n effeithlon ym Blaenau Gwent.

- Disgyblion bregus
Gweithio i gefnogi’r dysgwyr mwyaf bregus gydag ystod eang o anghenion neilltuol. Rhoddodd y Gwasanaeth Seicoleg Addysg gymorth ar amrywiaeth o faterion a phryderon ac fe wnaeth y Gwasanaeth Lles Addysg barhau i gysylltu’n ddiogel gyda dysgwyr a ddynodwyd a’u teuluoedd. Parhaodd cefnogaeth ar gyfer prydau ysgol am ddim drwy gydol y cyfnod.

- Gwasanaeth Ieuenctid
Newidiodd y Gwasanaeth Ieuenctid y ffyrdd y mae’n gweithio i barhau i gefnogi tua 750 o blant a phobl ifanc, yn cynnwys help gyda chyflogaeth, cyllid a llety a chefnogaeth gyda llesiant emosiynol a ffisegol. Maent hefyd wedi darparu cwnsela ac annog pobl ifanc i arsylwi ar fesurau COVID a chadw’n ddiogel.

- Cymorth digidol
Gweithio gyda darparwyr technoleg gwybodaeth i ddarparu dros 1,600 o ddyfeisiau electronig i deuluoedd a gafodd eu hallgau’n ddigidol i’w galluogi i gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu cyfunol.

Dywedodd Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg:

“Nid oes unrhyw amheuaeth na fu’r flwyddyn ddiwethaf yn heriol iawn i bawb ac rwy’n falch iawn o’r ffordd y gwnaeth y Cyngor a’n hysgolion ymateb a gweithio’n rhagorol gyda’i gilydd a gyda phartneriaid allweddol eraill i gefnogi ein dysgwyr a’u teuluoedd, fel y cafodd anghenion cymorth addysgol a llesiant barhau i gael eu diwallu.

Rwy’n falch fod Estyn wedi cydnabod y gwaith caled hwn yn eu hadroddiad a’u bod hefyd yn cefnogi’r gwaith gyda’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg i gefnogi cynllunio wrth ysgolion ar gyfer cyfnod nesaf yr adferiad ac adnewyddu ar gyfer ein plant a phobl ifanc. Byddwn yn parhau i weithio mewn cysylltiad agos gydag ysgolion ac mae hyn yn brif flaenoriaeth i ni.”