Energizer yn dathlu ei 25fed Ben-blwydd yn Stad Ddiwydiannol Rasa

Bydd Energizer Holdings yn dathlu 25fed pen-blwydd ei safle cynhyrchu gofal moduron yr wythnos hon. Sefydlwyd y safle yng Nglynebwy yn 1997 fel STP Products, gan wedyn ddod yn Armor All Products yn 2001. Yn 2019 prynwyd y busnes gan Energizer Holdings, un o gwmnïau cynhyrchu a dosbarthu mwyaf y byd ar gyfer batris sylfaenol, goleuadau cludadwy a chynnyrch ymddangosiad, perfformiad, oerydd ac arogl moduron yn cynnwys brandiau Energizer, Eveready, Rayovac a VARTA.

Mae’r safle yn cyflogi bron 50 o staff medrus ac yn cynhyrchu mwy na 700 o gynnyrch arogl ac ymddangosiad moduron yn amrywio o ychwanegion tanwydd i gynnyrch golchi ceir a werthir mewn 43 o wahanol wledydd.

Mae’r cwmni yn awr yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac wedi manteisio o’i rhaglen Cymorth Sgiliau Hyblyg i ehangu sgiliau’r gweithwyr. Mae gan arweinwyr y safle hefyd gysylltiadau cryf gydag Arddangosiad Arloesedd y Cymoedd ar gyfer Cynnydd Technolegol (VISTA), lle maent yn rhannu arfer gorau gyda chyflogwyr lleol eraill a Choleg Gwent ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd yn Energizer. Mae’r cwmni yn falch i gynrychioli ei frandiau byd-eang o fewn Cymoedd De Cymru wrth iddynt ddathlu’r garreg filltir hon yn hanes y safle.

Dywedodd y Cynghorydd John C Morgan, Aelod Gweithrediaeth – Lle ac Adfywio Cyngor Blaenau Gwent: “Llongyfarchiadau i Energizer Holdings sy’n dathlu eu pen-blwydd yn 25 yn eu safle yn Stad Ddiwydiannol Rasa, Glynebwy. Rwy’n falch iawn i’r cwmni byd-eang hwn ddewis Stad Ddiwydiannol Rasa, safle sydd ers hynny wedi denu nifer o gwmnïau o’r radd flaenaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn yn bersonol i estyn y dymuniadau gorau oll i Energizer Holdings ar gyfer y dyfodol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn falch iawn i rannu’r garreg filltir bwysig hon gyda nhw – llongyfarchiadau i’r tîm rheoli a’r gweithwyr a wnaeth i hyn ddigwydd – pob lwc ar gyfer y dyfodol!”