Dymchwel y Ganolfan Ddinesig

Bydd gwaith dymchwel y Ganolfan Ddinesig yng Nglynebwy yn dechrau ddydd Llun 24 Hydref 2022.

Bydd y gyffordd o’r A4046 (heol Tesco) i lawr i ardal y Ganolfan Ddinesig ar gau o nos Sul (23 Hydref) ar gyfer cyfnod y gwaith, y disgwylir fydd yn parhau am 23 wythnos.

Ni fydd cau’r ffordd i hwyluso dymchwel Swyddfeydd y Ganolfan Ddinesig yn effeitho ar yr A4046, y brif heol i Lynebwy, bydd hyn yn parhau ar agor drwy gydol y gwaith. Y ffordd a gaiff ei chau yw’r ffordd heb enw sy’n rhoi mynediad uniongyrchol i’r swyddfeydd o’r A4046.

Caiff mynediad i Ganolfan Iechyd Stryd y Bont a Chanolfan Byd Gwaith Glynebwy ei gadw bob amser drwy’r B4486 Heol y Fynwent.

Caiff y maes parcio yng nghefn yr adeilad (Western Terrace) ei ffensio bant, fodd bynnag bydd cylch troi ar gyfer modurwyr.

Bydd y llwybr troed o’r danffordd i Heol y Fynwent ar gael bob amser.

Yr oriau gwaith cyfredol a gytunwyd yw 8am i 6pm dydd Llun i ddydd Gwener a 8am i 1pm dydd Sadwrn. Prichard’s Contracting yw’r contractwr.