Dweud eich barn ar fannau gwyrdd Blaenau Gwent fel rhan o brosiect Natur Wyllt

Mae Blaenau Gwent CBS yn edrych am adborth gan breswylwyr ar sut y caiff ardaloedd naturiol o fewn y sir eu rheoli, gyda mannau gwyrdd ar draws Blaenau Gwent yn cael eu gadael i dyfu yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf er budd ecosystemau fel rhan o brosiect Natur Wyllt.

Cafodd y dull rheoli glaswelltir ei arbrofi mewn nifer o leoliadau ar draws y sir dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr mae pob un o’r pump awdurdod lleol yng Ngwent yn ymroddedig i reoli mwy o fannau gwyrdd ar gyfer natur fel rhan o brosiect Natur Wyllt, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd.

Drwy adael i laswelltir dyfu, caiff mwy o flodau gwyllt eu gadael i flodeuo am fwy o amser, gan roi cynefin ar gyfer bywyd gwyllt a phryfed peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw. Bydd galluogi planhigion i dyfu gwreiddiau hirach a mwy yn golygu y byddant yn cadw mwy o garbon yn y pridd ac yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae hyn hefyd yn creu mwy o aer yn y pridd, gan helpu i ostwng effaith llifogydd.

Bydd amgylcheddau sy’n cefnogi ystod ehangach o fywyd gwyllt o fudd i iechyd a lles meddwl preswylwyr, gan eu hannog i neilltuo amser i fwynhau ein mannau gwyrdd a gweld blodau, pryfed a bywyd gwyllt arall yn ymgartrefu yn y mannau gwyrdd naturiol hyn.

Lle’n bosibl, ni fydd y glaswellt mewn dolydd yn cael ei dorri tan yr haf. Fodd bynnag, caiff ardaloedd o amgylch llwybrau a chyffyrdd eu torri’n aml i gadw diogelwch a mynediad. Caiff ardaloedd hamdden eu cynnal a’u cadw yn rheolaidd, gan dorri gwair mewn darnau ar gyfer chwarae a phicnics.

Gan y cafodd y glaswellt mewn parciau ac ymyl ffyrdd ei dorri’n aml am ddegawdau, maent ar hyn o bryd yn brin o lawer o fathau o flodau gwyllt dolydd. Mae creu dolydd naturiol yn broses a all gymryd nifer o flynyddoedd gan alluogi mwy o flodau i hadu a thynnu glaswellt ar ôl ei dorri. Dros gyfnod byddant yn dod yn fwy amrywiol a lliwgar, gan roi cyfle gwych i ennyn diddordeb plant yn y natur sydd ar gael ar garreg eu drws.

Mae’r cyngor eisiau sicrhau y canfyddir y cydbwysedd cywir rhwng natur a hamdden drwy glywed adborth preswylwyr ar ddull Natur Wyllt yn y mannau gwyrdd lleol. Drwy adael i ni wybod beth yw eich barn y newidiadau, gallwch ddangos cefnogaeth neu dynnu sylw at feysydd lle gallem wella.

Gallwch gynnig eich adborth drwy’r ddolen hon: Natur Wyllt – Arolwg Canfyddiad y Cyhoedd (Tudalen 1 o 5) (office.com)

Mae’r prosiect hwn yn rhan o gyfres o raglenni a gyflwynir dan Brosiect Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, a gefnogir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig a chaiff ei ariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.

Mae mwy o wybodaeth am Grid Gwyrdd Gwent ar gael yma: Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent- Monlife