Drysau ffrynt yn ymddangos ym mae Caerdydd I Annog pobl ledled Cymru i agor eu Cartrefi i Blant Maeth

Mae cyfres o ddrysau ffrynt a osodwyd gan Maethu Cymru yn tynnu sylw at y rhai sydd wedi agor eu cartrefi i blant maeth yng Nghymru, gyda’r nod o gynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth o fewn awdurdodau lleol yn sylweddol.

Mae nifer o ddrysau ffrynt o faint go iawn wedi'u dadorchuddio y tu allan i'r Senedd wrth i'r rhwydwaith newydd o 22 o wasanaethau maethu'r Awdurdodau Lleol ledled y wlad, Maethu Cymru, wahodd y cyhoedd i ystyried agor eu cartrefi i helpu i ddarparu ar gyfer nifer y plant yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth.

Mae Maethu Cymru yn gweithio tuag at gynyddu nifer y gofalwyr maeth mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru i helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan fo hynny’r peth iawn iddynt, sy'n cyfrannu at yr effaith genedlaethol ar ddyfodol pobl ifanc. 

Ar ddiwedd mis Mawrth 2020, datgelodd ystadegau Llywodraeth Cymru fod 84% o blant sy'n byw gyda theuluoedd maeth yn dal i allu byw yn eu hardal eu hunain, gan gadw'n gyfarwydd â'r gymuned yr oeddent eisoes yn ei hadnabod.

Nod Maethu Cymru yw annog y rhai sy'n ystyried maethu i wneud hynny yn eu hawdurdod lleol fel y gall perthnasoedd pwysig, a all helpu plant i ffynnu, barhau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, "Mae gofalwyr maeth yng Nghymru wedi dweud wrthyf droeon am ba mor werthfawr y gall y profiad o ofalu am blentyn fod. Rwy'n annog unrhyw un sy'n gallu agor eu cartref fel bod y plant hynny sydd angen ein help yn gallu byw plentyndod hapusach a datblygu i fod y bobl maen nhw’n dymuno cael bod."

Mae dadorchuddio drysau ffrynt o faint go iawn heddiw yn cynrychioli pob un o'r 22 Awdurdod Lleol a'r nod cenedlaethol cyfunol o gydweithio i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant yng Nghymru.

Dywedodd Grahame, gofalwr gyda’i wraig Wendy gydag awdurdod lleol Gwent: “Mae maethu wedi bod yn dipyn o daith - yn gymysgedd o hwyl a thristwch ond, yn bennaf oll, ymdeimlad aruthrol o falchder.

"Roedd ein plant ein hunain wedi gadael cartref ond roeddem yn dal i deimlo bod gennym gymaint mwy i'w gynnig fel rhieni a gofalwyr. Dywedodd Grahame mai’r gyfrinach yw caru’r plant rydych yn gofalu amdanynt a’u derbyn fel rhan o’ch bywydau a’r teulu ehangach.

"Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i’w fywyd, bydd darparu cartref diogel a chariadus i blentyn neu berson ifanc yn newid eich bywyd chi hefyd mewn ffordd gadarnhaol sy’n dwyn boddhad.

"Rydym wedi cael ein cefnogi ar bob cam gan yr awdurdod lleol a byddem yn annog eraill i agor eu drysau a'u calonnau i blentyn. Cysylltwch â thîm eich awdurdod lleol heddiw."

 

Mae Maethu Cymru yn annog mwy o bobl fel Grahame i agor eu cartrefi i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol mewn angen.

Mae digwyddiad heddiw yn dilyn lansiad diweddar ymgyrch ehangach Maethu Cymru sydd â'r nod o gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru.