Cynhaliwyd Diwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd ddydd Iau 7 Medi. Mae Dystroffi Cyhyrau Duchenne (DMD) yn gyflwr prin ond difrifol, sy’n effeithio yn bennaf ar fechgyn ifanc ac yn achosi gwendid cynyddol mewn cyhyrau. Mae tua 2,500 o blant yn dioddef o’r cyflwr yn y Deyrnas Unedig ac yn drist, ni fydd y mwyafrif yn byw tu hwnt i’w hugeiniau.
Isod mae llun o Elliot a’i fam Lucy. Mae Elliot yn bum mlwydd oed a chafodd ddiagnosis o gyflwr DMD ddwy flynedd ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dreialon clinigol a gofal arbenigol yng Nghymru ar gyfer blant gyda Duchenne. Bu Lucy yn cydweithio’n agos gyda John Griffiths, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd, i newid hyn – ac maent yn obeithiol! Drwy weithio gydag Ymchwil Iechyd ac Ymchwil Gofal Cymru, Duchenne UK, byrddau iechyd Cymru a sefydliadau arall, gwyddom fod newid yn digwydd.
Mae’r ddau hefyd yn ceisio codi mwy o ymwybyddiaeth o Duchenne. Y llynedd fe oleuodd Cyngor Dinas Casnewydd adeilad y Ganolfan Ddinesig yn goch i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd. Byddai’n wych gweld cynifer o awdurdodau lleol ag sydd modd, cymryd rhan wrth godi ymwybyddiaeth. Byddai’n hwb gwych i bawb y mae’r cyflwr hwn yn effeithio arnynt.
Gallwch ganfod mwy am Dystroffi Cyhyrau Duchenne yma: About Duchenne | Duchenne UK