#CofleidioCydraddoldeb yw thema Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2023 sef y neges a gynlluniwyd i wneud i’r byd sylwi nad yw dim ond siarad am gydraddoldeb bellach yn ddigon.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol menywod. Mae’n gyfle i gydnabod penderfyniad a dewrder menywod sydd wedi newid hanes a chydnabod y rhai sy’n parhau i wneud hynny. Mae ymgyrch 2023 yn codi ymwybyddiaeth o ddealltwriaeth cyfle cyfartal ar lefel fyd-eang ac yn gweithredu fel llwyfan i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd:
“Diwrnod Rhyngwladol Menywod yw’n cyfle i ddathlu menywod a bwrw golwg ar lwyddiannau a datblygiadau a wnaed gan ac ar ran menywod. Ym Mlaenau Gwent rydym yn dathlu pob menyw, a bu heddiw yn gyfle i gydnabod rhai ohonynt yn lleol. Mae gennym lawer o fenywod talentog a chryf ac arwresau tawel yn ein cymuned. Bu’n wych rhoi iddynt a’r pethau anhygoel y maent yn ei wneud.”
Mae mwy o wybodaeth a manylion sut y gallwch gymryd rhan ar wefan Diwrnod Rhyngwladol Menywod.
#CofleidioCydraddoldeb