DIWEDDARIAD – RYDYM ANGEN EICH HELP

Ar hyn o bryd, mae ein holl wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent dan bwysau anferth gydag absenoldeb staff oherwydd Covid-19, yn enwedig ein gwasanaethau gofal cartref a darparwyr cartrefi gofal. Adroddir bod argyfwng cenedlaethol systemig mewn gofal.

Mae’r sefyllfa bresennol yn cael ei gwaethygu gan y pandemig, sy’n achosi heriau digynsail ac yn parhau i yrru’r sector iechyd a gofal cymdeithasol i’r pen.

Rydym nawr yn apelio i bawb sy’n derbyn gofal a chymorth i weithio gyda ni, ac rydym yn gwerthfawrogi yn fawr eich cydweithrediad a’ch dealltwriaeth gan ei bod yn debygol iawn y byddwch yn sylwi ar newidiadau yn eich trefniadau gofal presennol. 

Oherwydd absenoldeb staff a’r pwysau ychwanegol a grëir gan y pandemig, rydym yn cael anhawster mawr i ddarparu gwasanaethau cymorth mor ymatebol ag yr hoffem, ac mae gennym hefyd nifer sylweddol o bobl yn aros am becynnau gofal ledled y rhanbarth, sydd wedi cael effaith ar ein hysbytai a’r bobl hynny sy’n byw gartref.

Rhaid i ni ganmol ein staff yn y gymuned a’n darparwyr gofal lleol sydd wedi treulio nifer o fisoedd yn rheoli sefyllfa gymhleth iawn. Er gwaethaf y gwaith caled hwn, mae gennym o hyd nifer fawr o drigolion Gwent sydd angen pecynnau gofal a bydd y sefyllfa hon yn parhau yn y dyfodol rhagweladwy.

Rydym yn weithgar yn ceisio recriwtio gofalwyr newydd, ond mae hyn yn broblem. At hyn, rydym yn ystyried pob opsiwn i gynorthwyo’r sector gan gynnwys, lle bo modd, adleoli staff o dimau eraill y cyngor. Felly, rydym yn ddiolchgar am y cymorth a ddarperir gan deulu a ffrindiau sy’n gallu rhoi gofal a chymorth i’w hanwyliaid yn ystod y sefyllfa ddigynsail hon.

Rydym yn gweithio’n galed gyda holl randdeiliaid ar draws ein partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i leihau effaith y cymorth cyfyngedig y gallwn ei ddarparu. 

Rydym yn gofyn am yr help a’r cymorth canlynol gennych chi fel cymuned ehangach:

  • Os ydych angen gofal ac os gall aelodau eich teulu neu eich rhwydwaith ehangach ddarparu’r cymorth ychwanegol hwn, gadewch i ni wybod.
  • Rydym yn cydnabod, os gallwn gynnig gofal i chi, efallai na fydd y cynnig yn ddelfrydol, ond gofynnwn i chi weithio gyda ni gan fod ein hadnoddau yn brin iawn a’r cynnig hwnnw fydd y cyfan sydd ar gael.
  • Os bydd gofalwyr yn cyrraedd ar adegau gwahanol neu’n gofyn os gallent newid amserau galw, deallwch os gwelwch yn dda bod gofalwyr dan bwysau anferth
  • Os na all eich tîm gofal arferol ddarparu gofal, byddwch yn hyblyg a chefnogi’r newid yn y darparwyr gofal.
  • Os oes gennych offer yn eich cartref nad ydych yn ei ddefnyddio, megis fframiau Zimmer, comôd, fframiau toiled ac ati, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol  i ddychwelyd yr eitemau er mwyn gallu eu glanhau a’u hailddosbarthu i bobl eraill sydd eu hangen.
  • Os ydych yn adnabod unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn ofalwyr neu weithwyr cymorth, cysylltwch a’ch cyngor neu uwch i Cartref | Sut i weithio mewn gofal cymdeithasol a gofal plant | Gofalwn Cymru.

Damien McCann – Cyfarwyddwr Corfforeathol Gwasanaethau Cymdeithasol
Dave Street – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
Jane Rodgers – Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Iechyd
Sally Ann Jenkins – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Keith Rutherford – Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol a Thai