Disgyblion yn mwynhau cynllun ‘Bwyd a Hwyl’ yr haf hwn

Mae cynllun poblogaidd ‘Bwyd a Hwyl’ ar gael mewn dwy ysgol ym Mlaenau Gwent yr haf hwn, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc i gymdeithasu, bod yn egnïol a mwynhau prydau iach a maethlon.

Mae rhaglen ‘Bwyd a Hwyl’ yn seiliedig mewn ysgolion. Caiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Caiff y cynlluniau wedyn eu cyflwyno’n lleol gan yr awdurdod lleol, staff ysgol ac amrywiaeth o bartneriaid a sefydliadau lleol i gynnig amgylchedd cymdeithasol hwyliog yn ystod gwyliau haf ysgolion. Mae tua 140 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y cynllun eleni.

Ymwelodd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol Pobl ac Addysg y Cyngor a Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a Gweithredol Lle ac Amgylchedd ag un o’r ysgolion, Ysgol Gynradd Trehelyg, yng Nglynebwy i weld am beth mae’r cyfan. Fe wnaethant gymryd rhan mewn helfa clerod a chelf a chrefft a gweld a chlywed popeth y bu’r plant yn ei wneud.

Caiff y rhaglen ei harwain gan staff o’r ysgolion sy’n cymryd rhan, gyda chefnogaeth lawn gan y Cyngor ar gyfer arlwyo a glanhau. Caiff plant frecwast a chinio iach a snaciau maethlon fel rhan o’r diwrnod.

Dysgir y plant sut i goginio prydau iechyd sylfaenol gan ddysgu am fanteision maeth bwyta’n iach a bod yn fwy egnïol yn gorfforol, mewn lleoliad sy’n gyfarwydd i’r plant gan eu galluogi i ryngweithio’n gymdeithasol mewn awyrgylch hwyliog a hamddenol.

Cafodd grŵp o blant o Wcráin, sydd wedi setlo’n ddiweddar mewn canolfan groeso newydd ar gyfer ffoaduriaid yng Nglynebwy, hefyd eu gwahodd i gynllun Trehelyg  gyda staff yn defnyddio ap arbennig i gyfathrebu i’w galluogi i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol Pobl ac Addysg:

“Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â ‘Bwyd a Hwyl’ yn Nhrehelyg heddiw a gweld drosof fy hun sut mae’r cynllun yn helpu i gadw plant a phobl ifanc yn hapus, iach ac egnïol yn ystod gwyliau’r haf. Gwelodd digwyddiadau’r ychydig flynyddoedd diwethaf lawer mwy o bwyslais ar les corfforol a meddwl ein disgyblion, a’r cysylltiad pendant sydd gan hyn gyda gwella cyflawniad academaidd a rhagolygon y dyfodol. Caiff rhieni a brodyr a chwiorydd hefyd eu gwahodd i fynychu unwaith yr wythnos, sy’n  galluogi staff i gysylltu gyda theuluoedd i ddysgu sgiliau newydd iddynt tebyg i goginio, gwella eu hiechyd a’u lles a rhoi cymorth hanfodol ar gyfer teuluoedd yn ystod gwyliau ysgol.

“Fel Cyngor, mae llesiant pobl o bob oedran ym Mlaenau Gwent yn flaenoriaeth a bydd yn ffurfio rhan fawr o’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth hyn yn bosibl a gobeithiaf i bawb fwynhau eu hunain!”

Ychwanegodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Gweithredol Lle a’r Amgylchedd:

“Mae teuluoedd yma ym Mlaenau Gwent bob amser yn croesawu cynllun Bwyd a Hwyl, ond rwy’n credu yn arbennig felly eleni gyda’r argyfwng costau byw a phwysau ariannol plant sy’n derbyn gofal a’u cadw’n ddiddan drwy gydol y gwyliau. Yn ystod gwyliau’r ysgol, gall rhai teuluoedd ei chael yn anodd fforddio neu gael mynediad i fwyd sy’n rhoi diet iach a chytbwys. Mae rhai plant hefyd yn profi ynysigrwydd cymdeithasol a diffyg ysgogiad deallusol, sydd fel arfer ar gael mewn ysgolion neu weithgareddau cefnogi teulu, a gall hyn gyfrannu at ehangu’r bwlch cyrhaeddiad.

“Mae llawer o fanteision i gyflwyno Bwyd a Hwyl ym Mlaenau Gwent a ledled Cymru. Mae’r cynllun yn annog plant i fod yn fwy egnïol dros yr haf, yn addysgu plant am wneud dewisiadau iach yng nghyswllt bwyd a diod, gan felly wella diet a lles plant.”

Yr ysgol arall sy’n cymryd rhan yn y cynllun yw Cymuned Ddysgu Abertyleri. Mae’r gweithgareddau eleni wedi cynnwys Eco Addysgol, amrywiaeth o chwaraeon, gwersi Coginio Gyda’n Gilydd ar gyfer pob disgybl a rhiant, Taekwondo, Drama, Celf a Dawns.