Dewis llawn o wasanaethau ailgylchu ar gael yng Nghanolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi Roseheyworth

Agorodd Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi (HWRC) Roseheyworth, Abertyleri i’r cyhoedd ym mis Ebrill 2021 ac mae’n cynnig dewis llawn o wasanaethau ailgylchu.

Gall gyrwyr yn awr ddilyn system un-ffordd syml o amgylch y ganolfan newydd. Mae baeau parcio yn rhoi mynediad cyfleus i’r sgipiau ochr uchel ar y lefel uchaf neu gyfleusterau ailgylchu eraill sydd ar lefel y ddaear. Mae’r baeau parcio gwastad heb gwrbyn yn gyfleus ac yn dileu peryglon baglu posibl i bobl yn cario gwastraff o’u ceir. Mae hyd yn oed ganopi yn y safle didoli i gadw pobl yn sych pan maent yn rhoi eitemau yn y cynwysyddion ailgylchu llai.

Yn ogystal â medru derbyn dros 40 o wahanol ffrydiau gwastraff, mae gan y Cyngor ffordd ddynesu hir a syth yn arwain at y safle. Os oes angen, gallai hyn helpu i lacio tagfeydd a helpu cefnogi llif traffig yn ystod amserau brig.

Mae angen archebu pob ymweliad i Roseheyworth ymlaen llaw sy’n sicrhau nad oes ciwiau hir a gostwng amser aros. Yn ychwanegol, gallwch ddewis amser archebu cyfleus i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi ddod â thystiolaeth o’ch archeb a gall methiant i wneud hynny olygu y gwrthodir mynediad i gerbydau.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
“Bydd y ganolfan ailgylchu bwrpasol hon yn galluogi preswylwyr i ailgylchu ac ailddefnyddio eu sbwriel yn ddiogel ac effeithiol. Bydd yn ein helpu i gyrraedd targedau cenedlaethol ar gyfer ailgylchu ac yn diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae manylion llawn sut i drefnu apwyntiad a chanllawiau ar gyfer eich apwyntiad ar gael ar wefan y Cyngor: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/gwastraff-ac-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/
Gallwch ein ffonio ar 01495 311556 neu ymweld ag un o’n Hybiau Cymunedol newydd yn eich llyfrgell leol i gael mwy o help. Mae’r safle ar agor 6 diwrnod yr wythnos o ddydd Mercher i ddydd Llun rhwng 9am a 5.30pm gyda’r mynediad olaf am 5.20pm,  ac ar gau ar ddyddiau Mawrth.

Mae gan y ganolfan hefyd siop ail-ddefnydd ‘Y Den’ a weithredir gan Wastesavers. Gall preswylwyr gyfrannu eitemau sydd mewn cyflwr da a heb ddiffygion fel y gall rhywun arall eu prynu a’u hail-ddefnyddio. Mae Y Den hefyd ar agor 6 diwrnod yr wythnos, ar ddyddiau Mercher-Llun rhwng 9.30am a 4.30pm, ac ar gau ar ddyddiau Mawrth. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/gwastraff-ac-ailgylchu/mae-siop-ailddefnyddio-the-den-yn-awr-ar-agor/

Ni ddylai pobl ymweld â’r safle os oes symptomau COVID 19 ganddyn nhw neu aelodau o’u teulu.

Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi Roseheyworth
Parc Busnes Roseheyworth,
Heol Roseheyworth,
Abertyleri
NP13 1SP

Drwy glicio ar y ddolen fideo yma  https://vimeo.com/649455350 gallwch ddilyn y llwybr traffig un-ffordd o amgylch y safle a gweld y gwahanol opsiynau ailgylchu.

Drwy glicio ar y ddolen map yma dangos cynllun Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi Roseheyworth a’r ardaloedd ailgylchu dynodedig.