Derbyniodd sefydliadau Gwent gyllid gan y Loteri Genedlaethol i ymdrin â digartrefedd

Mae sefydliadau ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen wedi derbyn bron i £50,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer model menter gymdeithasol newydd, mewn ymgais trwy’r ardal i atal digartrefedd.

Mae’r rhaglen Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd wedi derbyn £49,976 tuag at rwydwaith integredig o wasanaethau cymorth gan gynnwys tai, iechyd, hyfforddiant a mentrau cyflogaeth.

Bydd y prosiect, sy’n cynnwys timau amlasiantaeth o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat drwy Went yn datblygu atebion arloesol i ategu cynlluniau Cam 2 yr awdurdod lleol i wneud digartrefedd yn anfynych, byr a byth yn digwydd eto.

Mae’r model newydd yn anelu at ddatblygu cynlluniau ar gyfer pedair o themâu allweddol drwy Went.

1. Cyfleoedd hyfforddi a chyflogi
2. Rhaglen cynghorwyr cymheiriaid
3. Gwasanaethau arbenigol sy’n deall trawma
4. Tai

Mae gwasanaethau digartrefedd drwy Went wedi wynebu nifer o heriau sydd wedi cael eu gwaethygu gan y pandemig. Mae’r galw am wasanaethau tai yn parhau yn uchel a rhagwelir y bydd pwysau ychwanegol ar dai dros dro a thai parhaol yn codi oherwydd y nifer o bobl sy’n cael anawsterau ariannol.  Dengys ffigurau 2019-20 Llywodraeth Cymru fod 1,938 o gartrefi wedi cael eu bygwth y byddan nhw’n ddigartref drwy Went yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ychwanegol, mae gwasanaethau ymyrraeth a chymorth yn parhau i ordanysgrifio, gyda chynnydd yn y nifer o achosion cymhleth.  Felly, mae’n hanfodol fod yr holl asiantaethau yn yr ardal yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy effeithiol ar gyfer pobl drwy Went.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth o 22 sefydliad, pob un yn cynrychioli cymunedau sydd angen tai.  Mae sefydliadau ac asiantaethau sydd ynghlwm â hyn yn cynnwys The Wallich, Cyfannol Women’s Aid, Ymddiriedolaeth St. Giles, Tai Pawb, Kaleidoscope, Cartrefi Dinas Casnewydd, Melin Homes, Tai Cymunedol Bron Afon, Tai Cymunedol Tai Calon, GCPhEM, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr Ardal De-ddwyrain Cymru yn The Wallich:

“Mae’r pandemig wedi bod yn her anferth i bobl sy’n profi digartrefedd, ond rydym wedi ymateb i’r galw er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Fodd bynnag, gyda’r cynllun ffyrlo yn dod i ben, y canlyniadau economaidd yn parhau i gael eu hasesu a chynnydd tebygol mewn pobl yn cael eu troi allan o’u cartrefi oherwydd ôl-ddyledion rhent, mae llawer mwy o bobl mewn risg o ddod yn ddigartref.  Mae’r Wallich wrth ei fodd yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau ac awdurdodau lleol o’r un feddwl er mwyn ymdrin â’r heriau ôl-bandemig newydd sydd o’n blaenau.  Mae’r prosiect hwn yn anelu at atal digartrefedd drwy gynorthwyo pobl i gael gwaith a gwella mynediad at gyngor a chymorth.  Drwy atal digatrefedd a chreu cymunedau gwydn, mae gobaith am well dyfodol.”

Dywedodd Simon Rose, Rheolwr Grŵp – Tai a Chomisiynu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen:

“Mae’r heriau ar gyfer pob asiantaeth i ymdrin a lliniaru digartrefedd a’r problemau sy’n gysylltiedig â digartrefedd wedi cynyddu yn sylweddol oherwydd y pandemig, ond mae cyfleoedd i ddatblygu partneriaethau cydweithredol wrth galon yr ymateb a’r adferiad. Dyma gyfle cyffrous dros ben ar gyfer trawsnewid gwasanaethau a bywydau.

Dywedodd Angela Lee, Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol Gwent:

“Drwy adeiladu ar y partneriaethau cryf ar draws asiantaethau yng Ngwent, mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle ffantastig a chwmpas inni i ddatblygu modelau a ffyrdd newydd o gydweithio, er mwyn sicrhau pan mae digartrefedd yn digwydd, bydd yn anfynych, byr a byth yn digwydd eto.”

Mae Taclo Digartrefedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gronfa £10 miliwn yn benodol ar gyfer prosiectau strategol sy’n ceisio ailwampio gwasanaethau er mwyn gwneud digartrefedd yng Nghymru yn anfynych, byr a byth yn digwydd eto. Bydd y grant o £49,976 a ddyfernir yn cefnogi datblygu cynnig prosiect am 5-7 mlynedd lawn ar gyfer derbyn cyfran o’r gronfa £10 miliwn.  Mae’n rhaid i’r prosiectau fod yn ganolog ar yr unigolion a chael eu cyflawni gan bartneriaethau amlasiantaeth lle mae’r sefydliadau trydydd sector a’r sector cyhoeddus yn gweithio yn agos gyda’i gilydd, yn seiliedig ar weledigaeth a gytunwyd arni yn gydfuddiannol ar gyfer ymdrin â digartrefedd.

Drwy Went, bydd y bartneriaeth yn datblygu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith drwy fodel menter gymdeithasol a nifer o fentrau er mwyn hybu cyflogaeth ac ailfuddsoddi yn y gymuned leol.  Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn diweithdra yng Nghymru nag unrhyw ran o’r DU rhwng misoedd Awst a Hydref 2020, gyda lefelau diweithdra yn codi i 4.8% a lefelau diswyddo yn cyrraedd yr uchaf erioed.

Bydd y Rhaglen Cynghorwyr Cymheiriaid, sy’n cael ei harwain gan Ymddiriedolaeth St Giles, yn cynyddu cyfleoedd i bobl gyda phrofiad byw o ddigartrefedd a gwasanaethau iechyd i ddarparu gwybodaeth ar gyfer cynllunio a chyflawni rhaglenni effeithiol a pherthnasol.

Mae’r grant yn golygu y bydd cynnydd yn y mynediad at wasanaethau arbenigol sy’n deall trawma i bobl yn y rhanbarth sydd ag anghenion cymorth cymhleth.  Bydd mentrau yn cael eu sbarduno gan sefydliadau penodol sy’n arbenigwyr mewn darparu gwasanaethau pwrpasol.  Er enghraifft, gwasanaethau merched (sy’n cael eu harwain gan Cymorth i Ferched Cyfannol), gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, ynghyd â chymorth ar gyfer ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phobl Nad oes ganddyn nhw Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NHGC).

Yn olaf, bydd y gronfa newydd yn ailgynllunio gwasanaethau cymorth sydd fawr eu hangen ar gyfer tenantiaeth a thai.  Gyda mwy o alw am dai, mae’n golygu y bydd mwy o ddefnydd o’r sector rhent preifat a bydd y gwasanaeth newydd yn cefnogi landlordiaid a thenantiaid er mwyn sicrhau na fydd y denantiaeth yn dod i ben, datrys anghydfodau a lleihau’r risg o ddigartrefedd posibl.