Datganiad ysgrifenedig: Newidiadau i deithio rhyngwladol

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (29/11/2021)

Rydym yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol. Fodd bynnag, yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i helpu i atal lledaeniad yr amrywiolyn coronafeirws newydd – omicron – i'r DU, rwyf heddiw'n cytuno ar reolau newydd ar gyfer pob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch.

O 4am ddydd Mawrth 30 Tachwedd bydd angen i bob teithiwr sydd wedi'i frechu'n llawn sy'n cyrraedd Cymru, gan gynnwys y rhai o dan 18 oed, hunanynysu a chymryd prawf PCR ar ddiwrnod 2 neu cyn hynny. Rydym hefyd yn ystyried a fydd angen prawf PCR ar ddiwrnod 8.

Unwaith y byddant wedi cael canlyniad prawf negatif, gallant roi’r gorau i hunanynysu.  Os byddant yn cael canlyniad positif, bydd raid iddynt barhau i hunanynysu am 10 diwrnod o'r dyddiad y cymerwyd y prawf.

Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i deithwyr sydd heb eu brechu sy'n dychwelyd o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch gael prawf PCR ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8, a hunanynysu am 10 diwrnod.  Bydd y gofynion hyn yn aros yr un fath.

Mae rheolau tebyg yn cael eu cyflwyno ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.

Mae ymddangosiad yr amrywiolyn omicron yn ddatblygiad difrifol yn y pandemig ac mae angen i bob un ohonom gymryd camau i gadw ein hunain yn ddiogel.

Rydym yn parhau i annog pawb yng Nghymru i gael eu brechu - gan gynnwys cael  brechlyn atgyfnerthu – i wisgo gorchudd wyneb ym mhob lle cyhoeddus dan do ac i gymryd camau syml eraill i amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid.

Os oes gennych symptomau coronafeirws, hunanynyswch a threfnwch i gael prawf.