Datganiad Ysgrifenedig: Blaenoriaethu Profion PCR

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Wrth i’r don omicron ledu ar draws y wlad, mae’r galw am brofion PCR wedi cyrraedd lefelau uwch nag erioed ar draws y DU. O ganlyniad i hyn, mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cyfyngu ar yr archebion ar brydiau er mwyn osgoi gorlethu labordai rhaglen y DU, ac effeithio ar amseroedd prosesu’r canlyniadau.

Ers Dydd Nadolig, mae’r archebion dyddiol mewn safleoedd profi ar draws Cymru wedi cyrraedd 28,000 – yr uchaf erioed.

Rwyf wedi cytuno ar rai newidiadau i’w gwneud ar unwaith i’r system profion PCR a fydd yn helpu i leihau’r pwysau, a helpu i gynyddu mynediad ar gyfer y rheini sydd â symptomau ac sydd angen trefnu prawf.

Bydd y newid cyntaf yn golygu y dylai pobl sydd heb eu brechu ac sydd wedi’u nodi fel cyswllt i achosion positif ac sy’n hunanynysu am 10 diwrnod bellach wneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth yn hytrach na phrawf PCR. Bydd hyn yn helpu i gynyddu capasiti profion PCR. Daw’r newid hwn i rym ar unwaith.

Yn ail, ynghyd â gwledydd eraill y DU, rydym wedi cytuno os bydd person sydd yn dangos dim symptomau yn cael prawf llif unffordd positif, ni fyddant bellach yn cael cyngor i gael prawf PCR dilynol er mwyn cadarnhau’r canlyniad, oni bai eu bod mewn grŵp sy’n agored i niwed yn glinigol, a allai fod angen mynediad cynnar at driniaeth, neu wedi cael cyngor i gael prawf PCR fel rhan o raglen ymchwil a monitro.

Gan fod cyffredinrwydd y coronafeirws yn uwch nag 1%, mae’r risg o gael canlyniad positif anghywir o brofion dyfeisiau llif unffordd yn gostwng. Mae hyn yn golygu bod llai o werth cael prawf PCR dilynol er mwyn cadarnhau’r canlyniad. Pan fo lefelau cyffredinrwydd yn uchel, mae data’n awgrymu bod gan brofion llif unffordd a phrofion PCR werth rhagfynegol positif tebyg.

Daw’r newid hwn i rym o 6 Ionawr, ac rydym yn amcangyfrif y bydd yn lleihau’r galw am brofion PCR o rhwng 5% a 15%.

Heb brawf PCR dilynol, mae’n bwysicach fyth bod pobl yn cofnodi canlyniad pob prawf llif unffordd maen nhw’n ei wneud, ac yn hunanynysu ar unwaith pan fyddant yn cael canlyniad positif. Os na fyddwch yn cofnodi, ni fydd modd olrhain cysylltiadau, ac ni fydd y system yn gallu darparu cyngor a chymorth.

Mae angen i bawb barhau i chwarae ei ran i dorri trosglwyddiad COVID-19 drwy gofnodi canlyniadau eu prawf llif unffordd ar wefan gov.uk neu drwy ffonio 119.

Mae canlyniadau positif o brofion llif unffordd eisoes yn mynd i system olrhain cysylltiadau Cymru er mwyn cyflymu’r broses o gysylltu a rhoi cymorth i bawb sydd angen hunanynysu.

Mae staff y GIG a gofal cymdeithasol yn cael gafael ar brofion o’n labordai GIG Cymru. Mae’n bosibl y bydd angen i ni gyflwyno newidiadau pellach i gadw profion PCR ar gyfer gweithwyr allweddol drwy raglen brofi’r DU os bydd y galw’n parhau i godi yn y diwrnodau a’r wythnosau nesaf.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni hefyd gyflwyno ymyriadau brys dros dro ar gyfer unigolion symptomatig nad ydynt yn agored i niwed er mwyn rheoli’r galw ac amddiffyn capasiti er mwyn dod o hyd i’r achosion sydd fwyaf tebygol o arwain at niwed.

Rydym yn cydnabod y bydd y newidiadau hyn, o bosibl, yn cynyddu’r galw am brofion llif unffordd. Nid oes unrhyw broblemau gyda chyflenwadau ar hyn o bryd, ond rydym yn ymwybodol o broblemau dosbarthu i rai mannau casglu gan gynnwys fferyllfeydd. Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU sy’n rheoli logisteg a dosbarthu ar draws y DU, ac rydym yn gweithio’n agos gyda nhw i wella’r sefyllfa. Cafodd mwy na 4 miliwn o brofion eu dosbarthu i weithleoedd, cartrefi pobl a mannau casglu yng Nghymru yr wythnos diwethaf.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.