Datganiad ar y cyd gan y 22 o arweinwyr cyngor yng: Ymgyrch etholiadol teg a pharchus

Yng nghyfarfod Bwrdd Gweithredol CLILC ddydd Gwener, fe gytunodd arweinwyr y cynghorau i wneud datganiad ar y cyd yn galw ar gynghorwyr a'r holl ymgeiswyr yn etholiadau lleol mis Mai i ymrwymo i ymgyrch etholiadol teg a pharchus.

Rydym i gyd yn rhy gyfarwydd a'r gamdriniaeth yr ydym yn ei gweld yn ein mewnflychau e-bost, ar ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol neu'n ei gweld neu'n ei chlywed ar ein strydoedd, neu'n waeth na hynny, yn ein cartrefi.

Fe ddylai gwleidyddiaeth ganolbwyntio ar ffeithiau a thrafodaeth barchus am wahaniaethau o ran polisi neu flaenoriaethau, nid sarhad neu anoddefgarwch, camwybodaeth neu gasineb at fenywod, gwahaniaethu neu rwyg.

Rydym wedi ymrwymo i ddenu mwy o bobl amrywiol i ystyried sefyll ar gyfer etholiad, mae angen i ni roi tawelwch meddwl a chefnogi'rymgeiswyrhynnysy'n newydd ifywyd democrataidd, y rhai hyn ny sy'n ymwybodol eu bod yn y lleiafrif neu sydd eisoes wedi profi gwahaniaethu.

Mae etholiadau'r cyngor yn ymwneud a phobl sydd eisiau cyfrannu a sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n cymunedau.

Gwaetha'r modd, rydym ni'n gweld nifer gynyddol ogynghorwyr ac ymgeiswyr yn cael eu cam-drin, eu bygwth a'u dych ryn.

Yn ogystal a bod yn gwbl annerbyniol, mae'r ymddygiad hwn yn tanseilioegwyddorion rhyddid barn, ymgysylltu democrataidd a th rafod.

Rydym ni'n ymdrechu i drin pawb a chwrteisi, caredigrwydda pharch ac, fel arweinwyr, rydym ni'n sefyll gyda'n gilydd i alw am roi diwedd ar gam-drin, brawychu ac aflonyddu
O unrhyw fath. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni gychwyn ar y cyfnod allweddol cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

Rydym n i'n addo cymryd rhan mewn ymgyrch etholiadol deg sy'n seiliedig ar ymgyrchu cadarnhaol a theilyngdod, yn hytrach nag ymosodiadau personol a difenwol yn erbyn unigolion.

Rydym ni'n annog pob aelod etholedig a phob ymgeisydd yn yr etholiad sydd ar y gweill i wneud yr un peth.

Yn ogystal, fe fyddwn ni'n amlygu'n gyhoeddus unrhyw ymddygiad amh riodol o'r fath ac n i fydd u n rhyw oddefgarwch o ran cam-drin.

Mae gan bob un ohonom ni'r hawl i gyflawni ein dyletswyddau dinesig heb ofni ymosodiad neu gamdriniaeth.

Mae unrhyw ymddygiad amhriodol -naill ai ar lafar, yn gorfforol neu'n ysgrifenedig ar y cyfryngau cymdeithasol-yn gwbl annerbyniol, a bydd camau'n cael eu cymryd os bydd an gen.

Byddwch yn garedig ac yn deg ym mhopeth rydych chi'n ei ddweud ac yn ei wneud.