Datblygiad tai Golwg y Bryn, Glynebwy ar y targed i’w gwblhau ym mis Medi

Mae cynllun datblygu tai £16.8 miliwn Golwg y Bryn ger Heol Waun-y-Pound ar gyrion gogledd-orllewinol tref Glynebwy wedi cyrraedd ei gamau terfynol gyda’r camau olaf i’w cwblhau ym mis Medi 2021. Dechreuodd gwaith adeiladu ar safle’r hen chwarel yn haf 2019 ac mae’n bartneriaeth gyda datblygwyr tai Lovell, cymdeithas tai Cartrefi Melin, Llywodraeth Cymru a Chyngor Blaenau Gwent.

Mae’r prosiect yn darparu 70 o dai dwy, tair a phedair ystafell wely ar y farchnad agored a 30 o dai fforddiadwy, yn cynnwys rhent cymdeithasol a pherchentyaeth cost isel. Mae’r rhan fforddiadwy yn cynnwys fflatiau dwy ystafell wely a tai dwy a thair ystafell wely.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Mae’r datblygiad hwn yn enghraifft wych o sut y gall gweithio partneriaeth fod o fudd i bobl a chymunedau. Mae angen mawr am y cartrefi hyn yn yr ardal ac mae’r dewis o ddaliadaethau yn rhoi cartrefi gweddus, cynaliadwy. Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn gyfnod heriol iawn ac mae Lovell wedi llwyddo i’w hadeiladu drwy gydol y pandemig. Bu’n gyffrous gweld y prosiect hwn yn dod i siâp fydd yn helpu Blaenau Gwent i ddod yn lle gwych i fyw ac mae’n ffurfio rhan arall o’n huchelgais adfywio ehangach ar gyfer y fwrdeistref.”

Mae Golwg y Bryn, a gaiff hefyd ei alw yn Bryn Serth, o fewn milltir o ganol tref prysur Glynebwy ac mae ganddo gysylltiadau rhagorol gyda’r orsaf drenau a ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd.

Llun - Chwith i’r dde: Gemma Clissett (Cyfaryddwr Partneriaeth Rhanbarthol, Lovell Partnerships Cyf), Paul Phillips (Rheolwr Adeiladu, Lovell Partnerships Cyf), Cllr Dai Davies (Dirprwy ArweInydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd CBS Blaenau Gwent), Bethan McPherson (Rheolwr Tîm, Cymunedau Cysylltiedig, CBS Blaenau Gwent) a Lyndon Griffiths (Cyfarwyddwr Tir Grŵp, Cartefi Melin) yn safle datblygiad tai gorffenedig Golwg y Bryn, Glynebwy.