"Cysylltwn ni â chi, nid chi â ni" meddai'r Bwrdd Iechyd am Frechiadau Atgyfnerthu

Bu Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn pledio i drigolion lleol, gan ofyn iddynt aros i dderbyn eu brechiad atgyfnerthu a pheidio â chysylltu â'r Bwrdd Iechyd ar gyfer manylion eu hapwyntiad.

Ers cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru nos Lun, a ddatganodd y bydd pob person cymwys yn derbyn cynnig apwyntiad ar gyfer eu brechiad atgyfnerthu Covid-19 erbyn diwedd 2021, bu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn derbyn nifer digynsail o ymholiadau gan preswylwyr lleol. Gyda thua 50% o'r galwadau a dderbynnir gan y ganolfan archebu brechu yn rhai gan breswylwyr sy'n ymholi pryd y byddant yn derbyn eu hapwyntiad, mae'r Bwrdd Iechyd bellach yn gofyn i'w trigolion lleol beidio â chysylltu â nhw, ac i aros i dderbyn apwyntiad.

Wrth i'r Bwrdd Iechyd weithio'n gyflym i ddarparu miloedd ar filoedd o frechiadau erbyn y Flwyddyn Newydd yn unol â'i dargedau newydd, mae staff yn boddi o fewn y nifer sylweddol o alwadau ffôn y maent yn eu derbyn gan breswylwyr sy'n galw i holi am fanylion eu hapwyntiad.

Er bod y Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi'r pryder y bydd preswylwyr yn eu teimlo ar ôl i'r strain Omicron Covid-19 newydd ymddangos, mae'r tîm brechu yn gwneud popeth o fewn eu gallu i frechu mor gyflym a diogel â phosibl.

Ar ôl cyflymu’r rhaglen Atgyfnerthu eisoes trwy ymestyn oriau agor a chapasiti canolfannau brechu, ynghyd â chael cymorth staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hadleoli, gweinyddodd y Bwrdd Iechyd dros 30,000 o frechiadau yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig.

Gyda nifer mor fawr o frechiadau i'w cyflwyno, mae'r Bwrdd Iechyd yn gofyn i'r holl breswylwyr wneud popeth o fewn eu gallu i fynychu'r apwyntiad cyntaf a gynigir iddynt. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gofyn i unrhyw breswylwyr sydd eisoes wedi cael apwyntiad i'w gadw a mynychu mewn pryd.

Rhoddir apwyntiadau i breswylwyr trwy lythyr, dros y ffôn, neu drwy neges destun, gyda galwadau ffôn yn dod o rhif yn dechrau ym 0330. Cynghorir unrhyw un na all fynychu'r apwyntiad cyntaf a ddyrennir iddynt y bydd ail apwyntiad yn cael ei wneud ar eu cyfer ar ddechrau mis Ionawr.

Dywedodd Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus a Phartneriaethau Strategol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyfle i gynnig y brechiad atgyfnerthu i gynifer o breswylwyr, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r rhai sydd wedi derbyn yr apwyntiad cyntaf ac wedi mynychu mewn pryd. Yn anffodus, oherwydd y nifer anhygoel o breswylwyr sydd bellach angen brechiadau erbyn mis Ionawr, mae ateb galwadau ffôn ac ymholiadau gan y rhai sy'n gofyn pryd y byddant yn derbyn eu hapwyntiad yn rhoi straen pellach ar wasanaeth sydd eisoes yn brysur.

“Tra byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu, mae pob ymholiad yn cymryd amser i ddelio â; amser y gellid ei dreulio'n well yn rhoi brechiadau. Byddwch yn hyblyg, derbyniwch eich apwyntiad cyntaf, disgwyliwch dderbyn apwyntiad ar fyr rybudd, ac atebwch ein galwadau o rif 0330. Os na allwch fynychu'r apwyntiad a ddyrannwyd i chi, byddwch yn ymwybodol na fyddwn yn gallu rhoi apwyntiad newydd i chi tan y Flwyddyn Newydd oherwydd y nifer uchel iawn o bobl yr ydym yn eu brechu.

“Ni fydd cysylltu â ni yn cyflymu'r broses o dderbyn apwyntiad a bydd yn arafu ein proses ar gyfer cynnig apwyntiadau - felly peidiwch â chysylltu â ni i ofyn pryd y byddwch yn derbyn eich apwyntiad. Byddwch yn amyneddgar a chewch hyder y byddwn yn cysylltu â chi unwaith y byddwch yn gymwys am apwyntiad."

I gael mwy o wybodaeth am ein rhaglen frechu Covid-19, ewch i'n tudalen frechu bwrpasol.