Cynnydd mewn Prosiectau Ynni ym Mlaenau Gwent

Croesawodd y Pwyllgor Craffu Adfywio y diweddariad ar y cynnydd ar nifer o brosiectau ynni strategol. Cynhwysir yr wybodaeth ym Mhrosbectws Ynni Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac mae’n amlygu gwaith dros y deuddeg mis diwethaf.

Roedd rhai o’r gweithgareddau allweddol y rhoddwyd sylw iddynt a gwblhawyd yn ystod 2021 yn cynnwys:
• Cwblhau cyfnod gwaith y rhaglen Re:FIT. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo am fonitro a gwerthuso’r prosiect.
• Ehangu Gwresogi Ardal y Gweithfeydd. Cysylltwyd Unedau Parc Busnes Rhodfa Calch gyda’r Rhwydwaith Gwresogi Ardal.
• Cynhyrchu Gwynt – Gwnaed cynnydd gyda un safle i gyrraedd cam datblygu achos busnes llawn.
• Cynhyrchu Hydro – Sicrhawyd cyllid ar gyfer astudiaethau dichonolrwydd. Cafodd cyntaf proses dau gam ei gwblhau erbyn hyn.
• Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan – Cwblhawyd Prosiect Rhanbarthol Gwent ac mae’r holl safleoedd yn fyw erbyn hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:
"Mae’n gadarnhaol iawn gweld y cynnydd a wnaed drwy gydol 2021 sy’n hanfodol os ydym i ddiogelu ein hamgylchedd a gostwng ein ôl-troed carbon. Bydd ymchwilio datrysiadau ynni amgen yn cynyddu i’r eithaf y datrysiadau carbon isel fydd ar gael ar gyfer y dyfodol.”