Cynnig i gynyddu lleoedd disgyblion yn Ysgol Arbennig Pen-y-cwm yn symud i’r cam nesaf

Mae Pwyllgor Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent wedi cytuno i symud i’r cam nesaf mewn cynnig i gynyddu capasiti yn Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm – drwy gyhoeddi Hysbysiad Statudol.

Yn ystod y cyfnod hwn – sy’n rhedeg tan ddydd Gwener 23 Gorffennaf 2021 – gellir gwneud unrhyw wrthwynebiadau ffurfiol i’r cynnig. Caiff unrhyw wrthwynebiadau eu hystyried gan gynghorwyr pan fyddant yn cwrdd i wneud penderfyniad terfynol ar y cynlluniau.

Byddai’r cynlluniau yn cynyddu nifer lleoedd disgyblion yn yr ysgol o 120 i 175. Cyflawnid hyn drwy gynnal gwaith ailwampio mewnol i gynyddu’r gofod addysgu a llesiant.

Dangosodd ymgynghoriad gyda’r cyhoedd, staff, teuluoedd, llywodraethwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill fod cefnogaeth gref yn gyffredinol ar gyfer y cynlluniau gyda dros 90%  o ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig yn llawn (82%) neu yn rhannol.

Er mai datrysiad tymor byr i’r galw cynyddol am y math hwn o leoliad disgyblion yw’r gwaith ail-wampio, bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried cynllun tymor hirach.

Yn ogystal â chreu gofod ychwanegol, bydd y cynlluniau yn darparu ardaloedd mwy ‘arbenigol’ ar gyfer addysgu. Rhagwelir y bydd safonau a hefyd ddarpariaeth yn gwella, gan sicrhau’r buddion mwyaf posibl i ddysgwyr.

Mae Pen-y-Cwm yn Ysgol Arbennig bob oed ar gyfer dysgwyr 3-19 oed gyda sbectrwm eang o anghenion cymhleth.

I ganfod mwy am yr Hysbysiad Statudol ewch i – https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/cyngor/ymgynghoriadau/cynnig-i-ymestyn-capasiti-ysgol-arbennig-pen-y-cwm/

Gwelodd yr ysgol gynnydd yn yr angen am leoedd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Os cymeradwyir y cynnig, byddai hefyd yn golygu y gellid derbyn rhai disgyblion lleol ym Mhen-y-Cwm sydd ar hyn o bryd yn mynychu ysgol tu allan i Flaenau Gwent oherwydd eu hanghenion,

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn parhau i fod yn hollol ymroddedig i gefnogi ein disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig sylweddol a’u teuluoedd. Gwelsom gynnydd yn nifer y disgyblion sydd angen y lleoliad arbenigol hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac felly rwy’n falch bod y Pwyllgor Gweithredol wedi cytuno i symud i’r cam nesaf o gyhoeddi Hysbysiad Statudol.”

Dywedodd Darya Brill-Williams, Pennaeth Ysgol Pen-y-Cwm:

“Mae Pen-y-cwm yn ysgol hapus a llwyddiannus iawn sy’n anelu cyflawni ei harwyddair ‘Gwnawn ein gorau’, a rhagori yn ei holl weithgaredd. Mae ein dysgwyr a’n teuluoedd yn haeddu’r gorau a’n nod yw cynnig dim byd llai.

“Rydym yn edrych ymlaen ac yn awyddus i weithio gyda’r Cyngor i gyflawni’r capasiti ychwanegol sydd ei angen i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ddysgwyr sydd angen darpariaeth addysgol arbenigol, ac rwyf mor falch ein bod wedi symud i’r cam nesaf.”

Os aiff y cynnig ymlaen gobeithir y byddai’r gwaith yn cael ei orffen erbyn dechrau’r tymor y mis Medi hwn.