Cynllun Tymor Hir i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws

Bydd Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel yn nodi dechrau cyfnod pontio Cymru y tu hwnt i’r ymateb argyfwng i’r pandemig  - mae mesurau argyfwng wedi bod mewn grym ers dwy flynedd.

Mae’n amlinellu sut y gall Cymru fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws - yn union fel yr ydym yn byw gyda llawer o glefydau heintus eraill - a beth y bydd hynny’n ei olygu i wasanaethau iechyd y cyhoedd a’r mesurau diogelu a roddwyd ar waith mewn ymateb i’r pandemig, gan gynnwys gwasanaethau profi.

Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf, gyda’r lefel bresennol o fesurau diogelu mewn grym. Ond gallai’r holl fesurau cyfreithiol gael eu dileu o 28 Mawrth ymlaen, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn aros yn sefydlog.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Rydym wedi bod yn byw yng nghysgod pandemig y coronafeirws ers dwy flynedd. Mae wedi cyffwrdd â’n bywydau ni i gyd – ledled Cymru, mae teuluoedd a chymunedau wedi aberthu llawer i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel. Mae pobl yng Nghymru wedi dilyn y rheolau.

Ond yn anffodus, mae gormod o deuluoedd wedi teimlo’r boen o golli rhywun annwyl neu ffrind agos. Mae fy meddyliau gyda nhw i gyd.

Wrth inni gyhoeddi'r cynllun hwn ar gyfer y tymor hwy, does dim amheuaeth ein bod wedi cyrraedd adeg arwyddocaol yn y pandemig hwn, a gallwn edrych tua’r dyfodol gyda hyder cynyddol y bydd y flwyddyn nesaf yn un lle mae gennym berthynas wahanol â'r feirws.

Mae hyn wedi bod yn bosibl oherwydd gwaith caled pawb, ac ymdrech yr holl staff iechyd a gofal, gweithwyr y sector cyhoeddus a gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud cymaint dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ond nid yw'r pandemig ar ben – mae hwn yn feirws sy'n llawn syrpreisys cas ac mae’n debygol y byddwn yn gweld patrymau amrywiol o ran yr haint ar lefel fyd-eang am sawl blwyddyn. Mae angen inni fod yn barod i ymateb yn gyflym i unrhyw frigiadau o achosion yn y dyfodol neu amrywiolion newydd wrth inni ddysgu byw ochr yn ochr â’r coronafeirws yn yr hirdymor.

Rydym wedi dysgu cymaint dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae angen i ni ddefnyddio hyn wrth i ni edrych tuag at ddyfodol mwy diogel a disglair gyda’n gilydd.

Mae Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: Covid-19 – Cynllun Pontio hirdymor Cymru o Bandemig i Endemig yn nodi dull pontio graddol oddi wrth fesurau argyfwng, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac sydd â’r nod o ddiogelu pawb, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, wrth ei wraidd.

Mae’r cynllun hwn yn amlinellu sut y bydd ymateb Cymru i’r coronafeirws yn newid o dan y ddwy senario cynllunio craidd - Covid Sefydlog a Covid Brys.

Covid Sefydlog yw’r senario fwyaf tebygol - rydym yn disgwyl dod ar draws tonnau ychwanegol o haint, ond nid oes disgwyl y bydd y tonnau hyn yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar y GIG, diolch i effeithiolrwydd brechlynnau a thriniaethau fferyllol eraill, megis meddyginiaeth gwrthfeirol Covid-19 newydd.

Mae’r cynllun yn nodi dull graddol, fesul cam o reoli’r feirws yn y tymor hir o dan y senario Covid Sefydlog, gan gynnwys:

  • Cefnogi pobl i gynnal ymddygiadau y mae pob un ohonom wedi dod yn gyfarwydd â nhw i helpu i leihau trosglwyddiad pob haint anadlol, nid dim ond y coronafeirws.
  • Brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn i bobl hŷn a’r rhan fwyaf o oedolion agored i niwed, a rhaglen frechu Covid-19 reolaidd o’r hydref ymlaen.
  • Y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu i symud yn raddol oddi wrth brofion symptomatig ac asymptomatig cyffredinol a rheolaidd a’r gofyniad i hunanynysu, at ddull sy’n targedu i raddau mwy y bobl sy’n agored i niwed.
  • Addasu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys, er enghraifft, defnyddio asesiadau risg a chynlluniau rheoli brigiadau o achosion lleol.
  • Busnesau a chyflogwyr eraill i ddatblygu’r elfennau rheoli heintiau y maent wedi’u rhoi ar waith i ddiogelu staff a chwsmeriaid.

Mae gwaith cynllunio wrth gefn yn mynd rhagddo i alluogi Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ymateb yn gyflym i senario Covid Brys – megis amrywiolyn newydd sy’n dianc rhag effaith y brechlyn – os oes angen.

Cynhelir yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws erbyn 24 Mawrth, pan gaiff gweddill y mesurau cyfreithiol ar lefel rhybudd sero eu hadolygu.