Cyngor yn parhau i weithio i gefnogi dysgwyr i fynychu ysgol

Clywodd Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu sut mae gwasanaeth cymorth Lles Addysg yn parhau i weithio gyda theuluoedd yn y fwrdeistref i geisio gostwng absenoliaeth cyson a sut maent yn wynebu heriau newydd fel canlyniad i bandemig Covid.

Dywedwyd wrth gynghorwyr yn y cyfarfod sut y gweithiodd swyddogion Lles Addysg a’r tîm Gwasanaeth Ieuenctid drwy gydol y pandemig gyda rhai o deuluoedd mwyaf bregus y fwrdeistref. Fe wnaethant roi cefnogaeth, sicrwydd a chyngor, yn arbennig yng nghyswllt llesiant ac iechyd meddwl y plant a’r bobl ifanc. Roeddent hefyd yn ddolen gyswllt allweddol rhwng teuluoedd ac ysgolion i annog a chefnogi gydag anghenion dysgu o bell a dysgu cyfunol pan oedd ysgolion a lleoliadau dysgu ar gau.

Cyn Covid bu’r tîm eisoes yn gweithio i drin problemau o absenoliaeth parhaus, ac, ynghyd â phartneriaid, roeddent yn helpu i gefnogi pobl ifanc i chwalu’r rhwystrau iddynt fynychu’r ysgol yn rheolaidd. Mae bellach ffocws ar annog ac ailintegreiddio disgyblion yn ôl i’r ysgol gan fod rhai yn wynebu heriau newydd gyda’u hanghenion emosiynol, ymddygiad a iechyd meddwl fel canlyniad i’r pandemig. Mae cyfnodau hunanynysu hefyd wedi effeithio ar absenoliaeth neu fregurwydd o fewn yr aelwyd.

Mae ffocws cenedlaethol ar hyn hefyd, gan y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad yn y dyfodol agos yn edrych ar y rhwystrau i fynychu ysgol a’r effaith a gafodd COVID ar hyn:

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg:

“Mae ein gwasanaeth Lles Addysg wedi gweithio’n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael ag absenoldeb cyson a gwneud yn siŵr fod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad i’r cyfleoedd addysgu a dysgu sydd ar gael. Wrth gwrs, fe wnaeth sylw newid yn ystod y cyfnod yr oedd ysgolion ar gau i gefnogi’r teuluoedd bregus hyn yn eu cartrefi a helpu gydag anghenion dysgu o bell a dysgu cyfunol. Nawr rydym yn gweithio gydag arweinwyr ysgolion i wneud yn siŵr y caiff y dysgwyr hyn eu cefnogi’n llawn i ddychwelyd i’r amgylchedd ysgol.

“Gwyddom fod presenoldeb da a rheolaidd yn arwain at well canlyniadau i ddisgyblion, gwella llesiant, yn neilltuol ein disgyblion mwyaf bregus a galluogi disgyblion i gynyddu eu potensial llawn i’r eithaf.”