Cyngor yn mynd rhagddo’n dda i gyflawni diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru

Dywedwyd wrth Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu fod y Cyngor yn mynd rhagddo’n dda i gyflawni’r blaenoriaethau sydd eu hangen ar gyfer diwygiadau i Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae’r diwygiadau yn rhan o fframwaith newydd Llywodraeth Cymru a gynlluniwyd i roi’r gefnogaeth orau i blant a phobl ifanc gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol a’u teuluoedd ar draws Cymru.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn olynu’r ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud ag anghenion addysgol arbennig (AAA), a’i phrif egwyddorion yw:

• Dull gweithredu seiliedig ar hawliau lle mae barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn, rhieni/gofalwyr y plentyn neu’r person ifanc yn ganolog i gynllunio a darparu cefnogaeth;
• Adnabyddiaeth gynnar, ymyriad a chynllunio pontio effeithlon;
• Cydweithio lle mae pawb sy’n gysylltiedig yn cydweithio er budd gorau’r plentyn neu berson ifanc;
• Addysg gynhwysol yn cefnogi cyfranogiad llawn mewn addysg brif ffrwd, lle bynnag sy’n ymarferol, a dull gweithredu lleoliad cyfan i ddiwallu anghenion dysgwyr gyda ADY; a
• System ddwyieithog lle cymerir pob cam rhesymol i gyflenwi darpariaeth addysg ychwanegol yn y Gymraeg.

Mae Cynllun Gweithredu Rhanbarthol yn ei le sy’n gosod pedwar maes blaenoriaeth strategol ar gyfer y gwaith:

• Blynyddoedd Cynnar
• Ysgolion
• Ôl-16
• Cydweithio

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gwaith yn yr holl feysydd hyn yn mynd rhagddo’n dda. Rhoddir hyfforddiant i’r holl staff sy’n gysylltiedig ac mae’r awdurdod lleol wedi datblygu neu ddiweddaru nifer o bolisïau i gefnogi’r newidiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg ar ran y Cyngor:

 “Un o amcanion Cynllun Llesiant Blaenau Gwent a phrif flaenoriaeth y Cyngor hwn yw sicrhau fod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Bydd gweithredu’r Ddeddf hon yn cefnogi creu system addysg llwyr gynhwysol, lle caiff pob dysgwr y cyfle i lwyddo a chael mynediad i addysg sy’n diwallu eu hanghenion ac yn eu galluogi i gymryd rhan, manteisio a mwynhau dysgu.

“Rydym yn mynd rhagddo’n dda i gyflawni’r blaenoriaethau sydd eu hangen ar gyfer diwygio ac edrychwn ymlaen at weld y newidiadau cadarnhaol a fydd gan hyn ar gyfer ein dysgwyr gyda’r anghenion hyn.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma - http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/documents/s11165/Report.pdf?LLL=0

Mae mwy ar ddiwygiadau ADY Cymru ar gael yma - https://llyw.cymru/rhaglen-trawsnewid-anghenion-dysgu-ychwanegol