Cyngor yn cymeradwyo taliadau Costau Byw a chyfraniadau i fanciau bwyd

Mae cynghorwyr Blaenau Gwent wedi pleidleisio heddiw i ddosbarthu £746,000 i helpu preswylwyr  cymwys gyda biliau eu cartrefi drwy daliad costau byw dewisol, a gwneud cyfraniadau sylweddol i fudiadau lleol sy’n cefnogi pobl ar y cyfnod hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid ychwanegol i gynghorau yn dilyn y cynllun taliad Costau Byw blaenorol. Caiff taliad Costau Byw o £150 yn awr ei wneud i gartrefi cymwys ym Mandiau Treth Gyngor E i H, nad oeddent yn dod o fewn y cynllun blaenorol ynghyd â £100 i deuluoedd sydd â hawl i brydau ysgol am ddim.

Caiff cyfraniad o £30,000 ei wneud hefyd i Fanc Bwyd Blaenau Gwent, gyda £70,00 arall ar gael i grwpiau dosbarthu bwyd eraill sy’n gweithredu yn y fwrdeistref a £50,000 i ganolfan Cyngor ar Bopeth, sefydliadau sy’n helpu pobl drwy’r argyfwng costau byw.

Dywedodd Cyng Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

“Sylweddolwn y pwysau aruthrol y mae’r argyfwng costau byw yn ei gael ar lawer o bobl yn lleol ac rydym wedi’i wneud yn un o’n blaenoriaethau cyntaf i wneud popeth y gallwn ei wneud fel Cyngor i gefnogi ein cymunedau. Rwy’n falch fod y Cyngor Llawn heddiw wedi cydnabod hyn a chymeradwyo’r pecyn cyllid hwn.

“Gallwn gynnig taliad Costau Byw i’r cartrefi cymwys hynny, a dylem hefyd fedru gwneud cyfraniadau sylweddol i fudiadau lleol sy’n gweithio’n galed i gefnogi pobl bob amser ac yn drist mae mwy o alw amdanynt nag erioed o’r blaen.

Os ydych yn gymwys am y taliad ac yn talu Treth Gyngor drwy ddebyd uniongyrchol ar hyn o bryd, caiff y taliad ei drosglwyddo’n awtomatig i’ch cyfrif banc cofrestredig. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael llythyr yn y post yn dweud wrthynt sut i wneud cais.

Bydd mwy o fanylion ar gael ar wefan y Cyngor yn y dyfodol agos.