Cyngor Blaenau Gwent i rewi’r Dreth Gyngor a chymeradwyo cyllideb 2022-23

Ystyriodd Cyngor Blaenau Gwent lefel ei Dreth Gyngor a’r gyllideb ar gyfer 2022-23 mewn cyfarfod a gynhaliwyd heddiw.

Mae’r Cyngor yn cydnabod yr effaith y mae’r cynnydd mewn cost byw  yn ei gael ar gyllidebau aelwydydd sydd eisoes dan bwysau a chytunodd y Cyngor na fydd elfen Blaenau Gwent o’r Dreth Gyngor yn cynyddu yn 2022-23.

Cyllideb 2022-23

Bydd y setliad darpariaethol gan Lywodraeth Cymru yn gweld cyllideb Blaenau Gwent yn cynyddu gan 8.4% ar gyfer 2022-23. Mae hyn wedi rhoi £10.4 miliwn o gyllid ychwanegol i’r cyngor uwchben amcangyfrifon cyllideb dechreuol.

Nod y cyllid ychwanegol yw mynd i’r afael â rhai o’r costau uwch sy’n wynebu pob cyngor yn cynnwys unrhyw gynnydd yn setliad cyflog athrawon, cyfraniadau Yswiriant Gwladol i godi arian i’r ardoll gofal cymdeithasol, cyllid i’r Cyflog Byw Gwirioneddol, cynnydd mewn costau ynni a pharhau i ddelio gyda’r pandemig Covid.

Blaenoriaeth y Cyngor yw diogelu gwasanaethau rheng-flaen. Mae’r setliad ffafriol sy’n uwch na’r disgwyl yn golygu y gallwn barhau i ddarparu’r gwasanaethau a gaiff eu gwerthfawrogi fwyaf gan breswylwyr lleol heb unrhyw doriadau i’r gyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dangosodd ymgynghoriad diweddar o’r gyllideb ar-lein fod preswylwyr yn ystyried Addysg fel prif flaenoriaeth i’r Cyngor a chytunodd y Cyngor hefyd ar gynnydd o 8.4% (gwerth £3.91 miliwn) i gyllidebau’r ysgol ar gyfer 2022-23.

Mae rhaglen barhaus ‘pontio’r bwlch’ y cyngor yn parhau i greu arbedion a chydnerthedd ariannol ar gyfer y dyfodol.

Croesewir y cynnydd mewn cyllid fodd bynnag nid yw’n gwrthdroi’r gostyngiadau sylweddol yn y gyllideb a fu yn y 10 mlynedd diwethaf sy’n golygu fod yn rhaid i ni barhau i fod yn ariannol ddarbodus a gweithio’n galed i ateb gofynion gwasanaeth gan gydbwyso’r gyllideb ym mlynyddoedd y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Daniels, Arweinydd y Cyngor:

‘Mae cyllid aelwydydd ym Mlaenau Gwent yn parhau i fod dan bwysau sylweddol oherwydd cynnydd mewn chwyddiant a chostau ynni ac rwy’n falch i gallwn rewi elfen Blaenau Gwent o’r Dreth Gyngor dros y flwyddyn nesaf ac ni fydd yn ychwanegu mwy o bwysau i gymunedau sydd eisoes dan bwysau ariannol.

Croesewir y setliad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf ac rwy’n falch y gallwn gynyddu cyllidebau ar gyfer ein hysgolion gan 8.4% yn neilltuol a medrwn gyflwyno set o gynigion na fydd yn golygu unrhyw doriadau i’r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a werthfawrogir gan ein preswylwyr lleol.

Unwaith eto hoffwn gydnabod rôl a gwaith staff llywodraeth leol yn ein cymunedau yn y flwyddyn ddiwethaf wrth i ni barhau i ddelio gyda’r pwysau digynsail oherwydd y pandemig Covid.

Rwy’n falch fod cyllideb 2022-23 yn parhau i arddangos ein hymrwymiad i wella gwasanaethau ar gyfer yr holl breswylwyr ym Mlaenau Gwent a chynyddu cydnerthedd ariannol ar gyfer gofynion blynyddoedd y dyfodol drwy ein rhaglen ‘pontio’r bwlch’.